A fydd y ras i arwain Llafur Cymru’n dechrau eleni tybed? Mae sawl un wedi bod yn trafod hyn dros y Nadolig, a’r farn unfryd, os amlwg braidd, ydi bod tri ymgeisydd posibl: Vaughan Gething, Jeremy Miles ac Eluned Morgan.

Ar un wedd mae gan bob un rhywbeth unigryw i’w gynnig; wedi’r cyfan, fe allem gael Prif Weinidog du, neu hoyw, neu fenywaidd cyntaf Cymru, fyddai’n newid o leiaf! Ond y tu hwnt i hynny dydw i ddim chwaith yn siŵr a oes dewis arbennig o dda.