Mae’r ferch 26 oed o Borthmadog yn Athrawes Ddawns yng Ngholeg Menai ac Academi West End ym Mangor.

Ac ers blwyddyn bellach mae hi wedi bod yn cyflwyno pytiau difyr a doniol ar Hansh…

Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno ar Hansh?

Wnaeth un o fy ffrindiau gorau anfon neges yn dweud eu bod nhw eisiau i rywun wneud yr eitem ‘Bwrdd Twristiaeth Hansh’ yn cyflwyno Porthmadog.