Cerdd newydd gan Llŷr Gwyn Lewis, enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion eleni

Y Geminidau

(Cawod o sêr gwib yw ‘y Geminidau’)

 

Be ddweda i, y gaea hwn,

a phawb yn sigo dan ei bwn,

pob tŷ heb wres, pob stryd drwy’r wlad

yn fôr o rew a thinsel rhad,

a rhyfel eto… pan fo’r byd

â’i ben i waered ar ei hyd?

Y gwario gwirion ofer ffôl

a Satwrnalia eto’n ôl: