Gair o gyngor gyda Rhian Cadwaladr – mae’r wal dalu wedi ei dymchwel ar gyfer y golofn hon, er mwyn i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…

Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor am sut i ddelio efo’r Nadolig cyntaf heb y plant ar ôl ysgariad…

Annwyl Rhian,

Mi ges i ysgariad ddwy flynedd yn ôl a’r llynedd fi oedd wedi cael y plant (sy‘n 11 a 13 oed) dros Dolig. Eleni, tro fy nghyn-ŵr a’i bartner ydy eu cael nhw ar ddydd Nadolig. Dw i’n casáu meddwl fydda i ddim yno i’w gweld nhw’n agor eu presantau a chael cinio Dolig. Rydan ni am gael Facetime ond dydy o ddim yr un peth. Mae’n debyg fyddai yn mynd draw at fy rhieni (sydd yn eu 70au) ar ddydd Nadolig er dw i wedi cael gwahoddiad gan ambell ffrind hefyd. Ond dw i ddim yn siŵr sut dw i’n teimlo am fod ynghanol miri teulu arall ac os fydd hynny’n gwneud i fi deimlo’n fwy unig. Oes gynnoch chi unrhyw gyngor am sut i oroesi’r Nadolig yn y sefyllfa yma? 

YR ATEB

Fel un gafodd ysgariad pan oedd y plant yn fach iawn mi rydw i’n medru cydymdeimlo efo chi. Mae trefniadau plant yn sgil ysgariad yn medru bod yn anodd ar unrhyw adeg ond mae’r Dolig yn medru gwneud hi’n anos fyth. Mae’r ŵyl yn medru bod yn anodd i amryw am wahanol resymau – mae yna gymaint o emosiwn ynghlwm â’r diwrnod a gymaint o bwysa i’r diwrnod hwnnw fod yn berffaith. Ond rhaid cadw mewn cof mai dim ond diwrnod ydi o a buan iawn mae pedair awr ar hugain yn hedfan, pa bynnag fath o amser ydych chi’n ei gael.

Rydach chi’n lwcus fod ganddoch chi ffrindiau da sy’n cynnig i chi fynd atyn nhw i ddathlu’r Dolig – dwi’n siŵr fod hynna yn gysur mawr i chi, ddim pawb sydd â ffrindiau mor agos ac mor feddylgar.  Rydach chi’n lwcus hefyd fod eich rhieni dal gyda chi ac, fel mam i oedolion, sydd wedi colli ei rhieni ei hun, mi wn yn syth beth faswn i’n argymell i chi wneud – ewch at eich rhieni. Mae gen i bedwar o blant a dim ond dau fydd efo ni am ginio Dolig eleni – er y bydd un mab wedi galw i’n gweld efo fy wyres fach yn y bore, adra efo’i deulu bach fydd o erbyn cinio. Mi fydd fy merch yn Ne America. Wedi dau Ddolig efo dim ond tri rownd y bwrdd oherwydd Covid mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael pawb yma, ond rydw i’n dallt yn iawn fod ganddyn nhw eu bywydau eu hunain rŵan. Dw i’n amau y bydd eich rhieni chithau wrth eu boddau o’ch cael chi efo nhw. Mi fyddwch yn rhoi rhodd arbennig iddyn nhw – eich amser a’ch sylw, ac mae rhoi pleser i eraill yn bleser ynddo’i hun yntydi?

Mae gen i dri llysfab hefyd, fydd efo’u mam am ginio Dolig ond yma efo ni am de – ac i agor swp arall o anrhegion. Dw i’n siŵr y bydd trefniant tebyg yn bosib i chithau wrth i’r plant dyfu. Yn y cyfamser, os yw’r plant yn ôl efo chi erbyn diwrnod San Steffan – beth am wneud hwnnw yn ddiwrnod yr un mor arbennig – a’r plant yn codi i weld mwy o anrhegion rownd y goeden? Gallwch ddechrau traddodiad newydd i wneud y diwrnod yn gofiadwy – y plant yn cael dewis eu hoff bryd o fwyd er enghraifft. Mi fyddan ni yn cael gymaint o’r teulu â phosib at ei gilydd bob gŵyl San Steffan ac yn mynd i gerdded yn y bryniau o gwmpas fy ardal ac mae’r dro yna yn rhywbeth y bydda i’n edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Beth am gael sgwrs efo’ch plant i chithau drefnu rhywbeth i chi fedru edrych ymlaen ato?

Yn olaf mi faswn i’n eich annog i beidio â dangos eich pryderon o flaen y plant. Gadewch iddyn nhw fwynhau eu hamser efo’u tad heb orfod poeni am mam. Dw i’n siŵr y bydda nhw’n adnabod plant eraill yn yr un sefyllfa â nhw ac mi fydd y sefyllfa yn rhywbeth sy’n teimlo yn hollol normal iddyn nhw, yn enwedig os oes ganddyn nhw batrwm rheolaidd o fynd at eu tad yn barod.

Beth bynnag fydd eich dewis, dymunaf Nadolig hapus a heddychlon i chi – peidiwch â rhoi eich pen yn eich plu – byddwch yn garedig efo chi eich hun, ymlaciwch a mwynhewch a gadewch i mam a dad eich sbwylio chithau unwaith eto.