Mae’r wal dalu wedi ei hepgor ar gyfer y golofn ganlynol, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Ers symud o Dransylfania i Lanrug yng Ngwynedd, mae’r wraig 38 oed wedi gadael y byd marchnata digidol i weithio yn y maes gofal, ac yn dysgu siarad Cymraeg.

Eleni fe gafodd ei dewis yn Brentis y Flwyddyn Cymru, ac yn ddiweddar roedd hi’n un o saith yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills i brentisiaid mwyaf disglair gwledydd Prydain…

Sut brofiad oedd cystadlu yn WorldSkills?

Dw i erioed wedi bod mewn cystadleuaeth o’r fath. Roedd yna bob math o wahanol gategorïau ar gyfer prentisiaid, o beirianneg awyrennau i letygarwch i iechyd a gofal cymdeithasol.

Ro’n i’n poeni braidd pan wnaethon nhw sôn am y gystadleuaeth. Fi? Mewn cystadleuaeth iechyd a gofal cymdeithasol?

Beth wnaethoch chi ddysgu tra’n cystadlu?

Llwyth!

Roedd yna un senario ble roedd claf wedi cael strôc, a wnaeth hynny wneud i fi adlewyrchu ar achosion blaenorol gyda chleifion, a gwneud i mi ystyried be wnes i’n iawn ac yn anghywir. Roedd o’n ffordd anhygoel o ddysgu. Os dwyt ti ddim yn cael dy orfodi i adlewyrchu ar dy gamgymeriadau, dwyt ti ddim am wella.

Pam newid gyrfa a mynd o farchnata i ofalu am gleifion?

Mae gen i radd mewn Cyfrifiadureg felly ro’n i’n arfer gwneud gwaith marchnata ar gyfer cwmnïau rhyngwladol.

Er mwyn prynu tŷ yma yn Llanrug wnes i ddechrau gweithio yn rhan amser yn y maes gofal cymdeithasol. Gyda Covid roedden nhw’n fyr ar staff a wnes i ddechrau gweithio mwy a mwy a mwy. Ar ôl ychydig o amser dyna oedd fy swydd lawn amser i ac roeddwn yn gweithio 60 i 70 awr yr wythnos.

Sut deimlad oedd cael eich dewis yn Brentis y Flwyddyn Cymru?

Dyna oedd y tro cyntaf i bobol gydnabod y gwaith dw i’n gwneud… a’r gwaith rydyn NI’n ei wneud. Efo Covid, roedd pawb yn clapio ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, ond doedd neb yn clapio i ddiolch i’r gofalwyr. Fy nod ydi codi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Sut beth yw bod yn ofalwr cymdeithasol?

Anodd ofnadwy. Mae gwahaniaeth anferth rhwng mynd o weithio gyda chyfrifiaduron i weithio gyda phobol, ond mae boddhad anferthol i’w gael o wneud y gwaith yma.

Mae gymaint o gydweithwyr wedi gadael ac mae’n bechod achos dylai’r llywodraeth newid rhywbeth. Maen nhw’n galw ni’n weithwyr unskilled ond dydi hynny jest ddim yn wir. Wnes i weithio mor galed a dysgu gymaint ag mae angen lot o wybodaeth. Os wyt ti am ddarparu gofal o safon uchel, ti angen y wybodaeth yma. Er enghraifft, os oes gen ti glaf gyda chlefyd Parkinson, ti angen gwybod popeth am y clefyd.

Beth sydd angen ei newid yn y maes?

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am gael mwy o ofalwyr ond dydw i ddim yn meddwl bod angen rhai newydd, mae’n rhaid i ni yn gyntaf gadw beth sydd gennym ni. Mae angen parchu’r staff sydd gennych, hyfforddi nhw, trin nhw’n dda a’u gwerthfawrogi nhw. Dw i’n meddwl bod o fel perthynas, mae’n rhaid i chdi weithio arno. 

Pam dysgu siarad Cymraeg, sef eich pumed iaith?

Cymraeg ydi’r iaith gyntaf yn yr ardal yma ac mae’n bwysig fy mod i’n gallu darparu gofal yn y Gymraeg, yn enwedig gofal diwedd oes. Pan mae’r cleifion wedi cyrraedd eu horiau olaf, maen nhw weithiau’n newid yn ôl i siarad eu hiaith gyntaf. Os ydyn nhw mewn poen, dw i’n gallu deall bod nhw angen cymorth ychwanegol a gwneud iddyn nhw deimlo’n brafiach.

Dw i’n dysgu sut i siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac wedi pasio fy arholiad canolradd ym mis Mehefin.

A chithau yn hanu o Dransylfania, beth yw eich hunaniaeth?

Wnes i dyfu fyny yn Nhransylfania yn Rwmania, ond dw i o dras Hwngaraidd.

Mae’r genhedlaeth hŷn yn gwybod am y Rhyfel Byd Cyntaf a bod Hwngari wedi colli tir. Ond mae’n neis dechrau sgwrs ac egluro fy mod i’n Hwngaraidd, er o Rwmania, a dw i’n siarad y ddwy iaith.

Sut blentyndod gawsoch chi?

Cefais fy magu mewn teulu modest a fi oedd y trydydd plentyn. Roeddwn i wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nhad ac roedd gennym ni berthynas arbennig. Yn anffodus bu farw mewn damwain drasig pan oeddwn yn 18, ychydig cyn i mi fynd i’r brifysgol. Roedd yn rhaid i mi weithio bob haf i allu talu am fy mhrifysgol a llety. Nid oes gennym fenthyciadau myfyrwyr yn Rwmania.

Beth yw eich ofn mwya’?

Marw ar ben fy hun. Fe wnaeth fy nhad farw ar ei ben ei hun yn yr ysbyty. Dyna pam mae gen i’r ofn yma.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i’n cerdded ein ci, Koda, sy’n gymysgedd o labrador a border collie. Wnaethon ni enwi fo’n Koda ar ôl yr arth fach ddrygionus o’r ffilm Brother Bear.

Beth sy’n eich gwylltio?

Disgwyl am bobol pan maen nhw’n hwyr. Mae hyn yn fy ngyrru’n wallgof! Os ydw i’n disgwyl yn y car am yr ail ofalwr, dwyt ti ddim eisiau bod yr ail ofalwr…

Oes gennych chi hoff le yng ngogledd Cymru?

Ar fy mhadl-fwrdd yng nghanol Llyn Padarn [yn Llanberis]. Ti’n gweld yr ardal o safbwynt gwahanol, mae natur mor bwerus… dim ond rhan fach iawn ydyn ni yn y bydysawd.

Dw i wrth fy modd yn padl-fyrddio pan mae’n bwrw glaw hefyd.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Mr Bean! Rowan Atkinson… dw i jest yn meddwl fod o’n glyfar iawn.

A byddwn i’n cael goulash Hwngaraidd i’w fwyta.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Mi fydda i mewn trwbl os dydw i ddim yn dweud fy ngŵr. Rydyn ni efo ein gilydd ers 14 mlynedd erbyn hyn, a wnaethon ni briodi yn 2010. Wnaethon ni gwrdd mewn priodas ac roedd y ddau ohonom ni’n sengl ar y pryd, felly dyna sut wnaethon ni ddod at ein gilydd.

Ydych chi’n hoffi cerddoriaeth?

Fy hoff gân ar hyn o bryd yw ‘Olyan Ő’ gan y Bagossy Brothers Company.

Dw i wrth fy modd â’r alaw ac mae’n fy atgoffa o adref. Mae gan y criw yma lot o ganeuon pop gwerin.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Lot o bethau. Dw i’n ailadrodd sgyrsiau yn fy mhen drosodd a drosodd. Os mae rhywbeth yn poeni fi, dw i methu cysgu. Dw i’n gorwedd yn effro yn troi a throsi.

Hoff ddiod feddwol?

Seidr – dw i’n licio’r rhai aeron tywyll. Mae’n neis cael diwrnod ffwrdd o’r gwaith er mwyn gallu cael diod fach!

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wnes i wir fwynhau The Help gan Kathryn Stockett. Mae’n llyfr anhygoel. Dw i hefyd yn licio Jojo Moyes a dw i wedi darllen lot ganddi. Mae ei llyfrau hi’n cadw fi’n effro ar shifftiau nos.

Hoff air?

Llonydd. Mae pawb yn dweud: “Dw i eisiau llonydd”.