Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae’r arlunydd 53 oed yn byw ym mhentref Llandudoch yn Sir Benfro.

Mi fuodd yn darlunio tactegau i dîm Nigeria yng Nghwpan y Byd 1998, ac mae hi bellach yn rhedeg oriel Canfas yn Aberteifi…

 

Beth sydd i’w weld yn yr oriel ar hyn o bryd?

Mae ganddo ni ddwy arddangosfa.

Fyny’r grisiau mae ganddo ni ‘Y Silff’ lle mae saith o artistiaid o Gymru wedi cael silff yr un i arddangos gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan eu cartrefi a’u stiwdios.