Mae FIFA yn dweud bod 3.5 biliwn o bobol yn gwylio Cwpan y Byd, a than yr wythnos hon roedd y Cymry wedi gorfod bodloni ar wylio yn unig am 64 o flynyddoedd.

Ond roedd y tîm yno nos Lun yn Qatar, yn chwarae eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ers 1958.

Cafwyd hanner cyntaf hunllefus gan y Cymry, ac yna ail hanner hudolus, ac fe lwyddodd yr hogiau i sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn America.