Mae yna fand o Fachynlleth sydd wrth eu boddau yn diddanu cefnogwyr Cymru cyn y gemau mawr yng Nghaerdydd…

Ar ôl chwarae i dorfeydd mawr ar drothwy gemau mawr mewn clwb enwog, fe gafodd y band The Pumpers wahoddiad i chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau rhyngwladol.