Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae yna gwestiynau wedi cael eu gofyn yn y wasg ynglŷn â faint o Saesneg sydd ar S4C, a pha fudd sydd i’r gost fawr o greu dramâu cefn wrth gefn yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg.

Mae un actor wedi cyhuddo’r sianel o ‘ddibrisio’r gynulleidfa Gymraeg a dilorni ei hiaith a’i diwylliant’ drwy gyflogi actorion di-Gymraeg yn eu prif ddramâu i blesio cyllidwyr allanol.