Ar ôl haf prysur yn gigio o un ŵyl i’r llall, mae grŵp gwerin ifanc sy’n rhoi gwynt o’r newydd mewn tiwns traddodiadol wedi cyhoeddi albwm i gadw’r tannau ynghyn…

Mae gan y grŵp Avanc ddeg o gerddorion craidd sy’n aelodau cyson, ond fe fydd yna eraill yn ymuno weithiau. Maen nhw newydd gyhoeddi albwm, Avanc yn Fyw, wedi haf prysur o gigio mewn gwyliau, sydd eisoes ar gael yn ddigidol ac a fydd ar gael ar CD yn fuan.