Sicrhau “ffyniant” i Lanbedr Pont Steffan yw prif flaenoriaeth cynghorydd sir newydd y dref.

Ann Bowen Morgan yw’r cyntaf erioed o Blaid Cymru i gynrychioli Llanbed ar Gyngor Ceredigion.

Yn wreiddiol o Fangor, Gwynedd, symudodd i’r dref 12 mlynedd yn ôl pan dderbyniodd ei gŵr swydd gyda’r brifysgol yno.

Bu yn athrawes a bellach mae hi’n dysgu Cymraeg i oedolion.