Fe fydd noson arbennig yn rhan o ŵyl Llais yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf i ddathlu gwaith un o artistiaid mawr y Cymoedd, ac un nad yw, yn ôl y trefnydd, yn cael ei ddathlu “cymaint ag y dylai” gan y Cymry.

Mae gŵyl Llais, a fydd yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm o ddydd Mercher hyd at ddydd Sul, 26 i 30 Hydref, yn ceisio rhoi llwyfan teilwng i leisiau “gwahanol” a chynhyrfus o Gymru wrth ochr perfformwyr cyfoes rhyngwladol.