O ran helyntion Llywodraeth Liz Truss, mae’n ymddangos nad ydi’r blogfyd yn credu bod angen dweud dim. Ond mae blogwyr Cymru a’r Alban yn gweld chwalfa fwy sylfaenol o flaen y Deyrnas Unedig…

“…gwladwriaeth sydd yn anghyfansoddiadol ac sydd mewn argyfwng sefydliadol dwys. Nid yn ddigyfraith o anghyfansoddiadol, ond yn gymysgedd frau o weddillion canoloesol, gyda rhai wedi eu sbriwsio’n arwynebol a’u troi’n syfrdanol o fodern. Y canoloesol a’r ffug ganoloesol yn gymysg. Yr edefyn arian yw’r goron-yn-y-senedd wedi ei gwisgo gan gyfres o ymhonwyr.” (Gordon Guthrie ar bellacaledoina.org.uk)

Yn ôl Theo Davies-Lewis ar nation.cymru, er mwyn cwblhau’r chwalfa, mi fydd raid i’r cenedlaetholwyr yng Nghymru gael arweinydd sy’n gallu estyn allan at y bobol gyffredin…

“Ddylai cenedlaetholdeb Gymreig ddim chwilio am dwyllwyr neu ddynion cry’ i arwain. Ond mae’r mudiad angen ysbrydoli y tu hwnt i’r digwyddiadau ffurfiol sy’n apelio’n benna’ i’r un cylchoedd ac at sylfaen etholiadol Plaid Cymru. Mae’n dasg galed y mae cenedlaetholwyr wedi ymrafael â hi ers blynyddoedd. Ond fu erioed fwy o angen brys am hynny. Mae newid sylfaenol ar droed yng ngwleidyddiaeth Lloegr. Mae’r Alban unwaith eto’n agos at refferendwm. Efallai fod Iwerddon unedig hyd yn oed yn fwy tebygol. Pwy – nid beth – fydd yn siapio tynged Cymru?”

Er nad ydi John Dixon wedi’i argyhoeddi’n llwyr gan adroddiad yn dangos sut y gallai Cymru annibynnol dalu ei ffordd, dydi o ddim yn poeni llawer am hynny…

“Mewn gwirionedd, does neb ohonon ni’n gwybod beth fyddai oblygiadau ariannol manwl annibyniaeth – ond dydi’r unolaethwyr fyth yn cyfadde’ chwaith na wyddon ni beth ydi oblygiadau ariannol manwl aros yn yr undeb. Yn y bôn… does dim modd gwybod beth fydd y dyfodol. Yn niffyg unrhyw reswm credadwy pam y dylai Cymru, yn unig yn y byd, fod yn analluog i ofalu am ei materion ei hun (a dyw gwrthwynebwyr annibyniaeth ddim eto wedi cyflwyno rheswm credadwy o’r fath), y casgliad rhesymegol a rhesymol ydi fod Cymru yr un mor alluog ag unrhyw wlad arall debyg. Os ydyn ni eisie, fe allwn. Y cwestwin go iawn ydi a ydyn ni eisie neu beidio – ac all syms gofalus fyth ateb y cwestiwn yna.” (borthlas.blogspot.com)

Hyd yn oed heb annibyniaeth, mae’r Ceidwadwr Andrew Potts yn cefnogi galwad Plaid Cymru am amrywio treth incwm yma a pheidio â thorri’r 1c oddi ar y radd sylfaenol…

“Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllid (OBR), mae pob ceiniog ychwanegol ar radd sylfaenol y dreth yn golygu tua £200 miliwn a allai gael ei wario i gynnal gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. I’r rhai sydd ar y gyfradd uchaf, byddai ceiniog ychwanegol yn golygu £30 miliwn yn rhagor i’r gronfa ganolog. Byddai codi ‘ceiniog Cymru’ ychwanegol i ddadwneud gostyngiad o geiniog y Deyrnas Unedig yn golygu y byddai trethdalwyr Cymreig yn parhau i dalu’r un faint â chyn y gyllideb fach, ond byddai’n golygu bod rhagor ar gael i’w wario yng Nghymru… byddai’n arwain at raddfeydd trethi uwch yn gyffredinol ond byddai’n gosod Cymru ar sylfaen ariannol gadarnach, gan helpu i gynnal gwasanaethau y mae llawr yn dibynnu arnyn nhw.” (nation.cymru)