Mae hyfforddwr llais o Geredigion sydd wedi gweithio’n helaeth gyda’r Royal Shakespeare Company (yr RSC) yn dweud bod penodiad mawr diweddar y cwmni yn “wir gyffrous” i fyd y celfyddydau.

O fis Mehefin 2023, Daniel Evans, sy’n enedigol o’r Cymoedd, a Tamara Harvey, a gafodd ei magu yn Massachussetts a Brighton, fydd Cyd-gyfarwyddwr Artistig yr RSC. Ar hyn o bryd, mae Daniel yn Gyfarwyddwr ar y Chichester Festival Theatre, a Tamara yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd.