Roedd cynhadledd y Blaid Lafur yn llawn bwrlwm ddechrau’r wythnos, a phwy all eu beio?

Mae’r blaid ymhell ar y blaen ymhob pôl piniwn, tra bod y Ceidwadwyr yn wynebu eu hargyfwng diweddaraf wrth i werth y bunt ddisgyn i lefelau na welwyd ers tro byd.

Cafwyd yn y gynhadledd yn Lerpwl areithiau lu am fethiannau’r Ceidwadwyr a’r hyn fyddai llywodraeth Lafur yn ei chyflawni.