Rydw i newydd ddod nôl o daith gerddorol yn yr Almaen gydag Efa Supertramp a’i band Chwalaw, a’r delynores Cerys Hafana.

Roedd hi’n daith i hybu a dathlu cyfeillgarwch rhwng cerddorion Cymraeg a Sorbaidd, wedi ei threfnu gan Kolektiw Wakuum, sef criw o bobl ifanc sy’n creu digwyddiadau celfyddydol i hybu hunaniaeth a diwylliant Sorbaidd.