Mae tenantiaid ar stad fawr ar Ynys Môn wedi codi pryderon eu bod yn cael eu troi allan o’u cartrefi er mwyn i’r perchennog allu eu troi yn llety gwyliau.

Wedi’i leoli yn ne-orllewin yr ynys rhwng pentrefi glan môr Aberffraw a Niwbwrch, mae Ystad Bodorgan yn cynnwys nifer o dai rhent sy’n gartrefi i Gymry lleol.

Bu Tywysog Cymru yn byw mewn bwthyn crand pedair llofft ar y stad gyda’i wraig Kate, pan oedden nhw newydd briodi a William yn hyfforddi gyda’r RAF rhwng 2011 a 2013.