Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl ganlynol, i bawb gael blas o gynnwys y cylchgrawn…

Mae pennau cyrliog y genedl yn heidio o bob cwr o’r wlad i ‘unig siop trin gwallt cyrliog Cymru’.

Yn ogystal â denu cwsmeriaid o bellafion Môn a gwaelodion Sir Benfro i’w salon yn Aberystwyth, mae rhai pobol o dros Glawdd Offa yn teithio i gael gwasanaeth arbenigol Richard James.

Er bod ambell dorrwr gwallt arall yng Nghymru wedi astudio sut i drin gwallt cyrliog – y ‘curly cut’, sy’n dechneg cwbl wahanol i dorri gwallt syth – salon Cyrl Cymru ydy’r ceffyl blaen.

Mae Richard yn dweud ei bod yn “anhygoel” ei fod yn un o’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol The Salon Awards, sef gwobrau sy’n cael eu dyfarnu i oreuon y maes drwy wledydd Prydain.

Bydd enw’r enillydd yn y categori trin cyrls yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.

Agorodd Richard y salon y llynedd, ac ers hynny mae’r galw wedi bod yn “boncyrs” a siop Cyrl Cymru yn llawn dop.

Ar hyn o bryd all Richard ddim cynnig apwyntiadau rheolaidd i fwy o gwsmeriaid, a’r unig obaith yw disgwyl am ddyddiadau sy’n cael eu neilltuo ar gyfer apwyntiadau untro. Ond rhaid bod yn sydyn, mae’r rheiny’n tueddu i gael eu bachu mewn munudau.

Mae angen i fwy o dorwyr gwallt ddysgu’r grefft o drin cyrls, meddai Richard, sy’n fab fferm o’r Ferwig ger Aberteifi, ond sydd bellach yn byw ger y lli yn Aberystwyth.

“Diddordeb oedd gyda fi i wybod sut i wneud gwallt cyrliog,” meddai Richard, sydd wedi bod yn torri gwalltiau ers 22 mlynedd.

“Smo ni’n cael dysgu sut i wneud gwallt cyrliog, roedden ni’n gwneud [yr hyfforddi cychwynnol] i gyd [gyda gwallt] syth. Ond dyw [gwallt cyrls] ddim yn gweithio mas yr un peth. Mae e’n wahanol iawn. Rydyn ni’n torri’r gwallt yn sych, ac rydyn ni’n gallu gweld siâp [y cyrls] yn dod bryd hynny. Felly dim golchi e, fel rydyn ni’n gwneud â gwallt syth, torri fe’n sych, wedyn golchi a steilio ar ôl hynny.

“Mae’n cymryd ychydig mwy o amser hefyd, mae’n cymryd awr a hanner i ddwy awr. Ond, mae’r gwallt yn para tua thri i chwe mis wedyn felly dydy clients ddim yn dod mor aml â phobol gyda gwallt syth.”

Aeth Richard ar gwrs am ddim ar dorri gwallt cyrliog mewn salon ym Mirmingham yn 2018, a phenderfynodd agor y siop er mwyn dangos i bobol bod yna ffordd i drin gwallt cyrliog.

“Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig cael siop fel hyn yng Nghymru, i ddangos i bobol gyda gwallt cyrliog bod lle i gael ac i ddechrau rhywbeth off,” eglura.

“Dyna reswm arall pam wnaethon ni agor y salon, fel bod pobol yn cael y driniaeth iawn. Mae popeth curl related yn fan hyn. Pan mae pobol yn dod yma am y tro cyntaf, yn lle salon gwallt syth, maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ac yn sbesial ac yn cael y driniaeth iawn am y tro cyntaf.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig hefyd fy mod i’n [torri gwalltiau cyrliog] plant. Amser oeddwn i mewn salonau eraill roedd plant bach yn llefain achos bod eu gwallt nhw’n cael ei dynnu, felly mae hi mor neis eu bod nhw’n dod ata i a dw i’n gwybod sut i drin eu gwallt nhw. Mae’r plant yn mwynhau dod yma hefyd. Dw i’n gallu dangos i’r rhieni sut i drin y cyrls hefyd, achos mae rhai ohonyn nhw gyda rhieni efo gwallt syth sydd ddim efo cliw sut i steilio’u gwalltiau.”

Llawn dop

Dim ond Richard sydd wrthi yn y salon, ac er ei fod yn disgwyl iddi fod yn dawel pan ddechreuodd, mae’r realiti yn gwbl wahanol.

“Roeddwn i’n mynd i ddibynnu ar regulars fi er mwyn cadw pethau i fynd, ond amser wnes i Instagram a dweud fy mod i’n ‘Wales’ first curly hair salon’, fe gaethon ni lwyth o negeseuon,” meddai.

“Creues i restr aros bryd hynny, ond gymerodd hwnna flwyddyn i fynd trwyddo fe. Dyna pam dw i ddim yn gwneud rhestr aros ddim mwy. Dw i’n gweithio chwe diwrnod yr wythnos. Dros Covid roeddwn i’n gweithio o wyth y bore tan wyth y nos i ddala lan… roedd hwnna’n galed, a sa i’n mynd i wneud hynna eto. Licien i wneud gwallt pawb achos mae’n neis cwrdd â phobol a neis helpu nhw i gael proper curly cut.

“Mae [cael salon yn neilltuol i drin gwallt cyrliog] yn eithaf newydd ym Mhrydain. Amser dechreuais i, doedd dim llawer i gael… mae mwy i gael, ond mae’r ffordd rydyn ni’n torri am newid wrth i ni ddysgu a phigo fe lan. Y rheswm dw i’n gwneud Instagram nawr yw dangos i bobol beth yw’r ‘curly cut’ yma, achos mae yna lot o bobol dal ddim yn gwybod. Dw i’n dangos i dorwyr gwallt beth yw e hefyd.”

‘Angen ychydig o help!’

Roedd gan Richard salon pop-yp yn siop trin gwallt House of Hinton Nghaerdydd yn ddiweddar, ac mae’n bwriadu teithio mwy o’r wlad yn cynnig ei wasanaeth.

“Dw i’n gobeithio mynd o gwmpas salons y gogledd, mae lot o bobol o’r gogledd yn dod ata fi felly maen nhw’n desperate i fi fynd lan fan hynny… ond amser yw e.”

Doedd gan Richard fawr o syniad pa yrfa i’w dilyn pan adawodd yr ysgol, a doedd trin gwallt ddim yn rhywbeth oedd yn apelio ato ar y pryd. Ond cafodd ei berswadio i ddilyn cwrs trin gwallt yng Ngholeg Sir Gâr yn Llanelli, a chymryd at y grefft.

Ar ôl hynny, bu’n gweithio mewn siopau yn y Mwmbwls a Chaerfyrddin a gyda’r arbenigwyr trin gwallt, Toni & Guy, ym Mryste. Dros y blynyddoedd, bu ar gyrsiau yn Llundain gyda rhai o enwau mawr y byd trin gwallt – Vidal Sassoon, L’Oreal, a TIGI.

Dydy siopau trin trin gwallt cyrliog ddim yn arbennig o gyffredin yn Lloegr chwaith, meddai Richard, sydd wedi bod ar gwrs gydag arbenigwyr tramor yn ddiweddar.

“Mae’r bobol yma o America ymhell ar y blaen i ni, dw i’n meddwl achos bod mwy o gyrls yn America. Mae lot o ddysgu [i’w wneud] yn fan hyn.”

Gobaith Richard yw y bydd rhagor o salonau yng Nghymru’n dechrau arbenigo mewn torri gwallt cyrliog, gan ddilyn ei esiampl.

“Dyna beth fi moyn, i gael salonau rownd Cymru i gael diddordeb mewn trin gwallt cyrliog,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yn gofyn i fi os dw i’n gallu gwneud cyrsiau gyda nhw, a dw i am ddechrau hynna nesaf. Hwnna yw next phase fi, dysgu salonau rownd Cymru [i drin cyrls]. Dw i’n meddwl y dylai pob salon gael ryw wybodaeth ynglŷn â sut i drin gwallt cyrliog. Mae pob un moyn fi, ond sa i’n gallu gwneud pawb, felly mae angen ychydig bach o help arna i nawr!”