Mae wedi bod yn gyfle i hel meddyliau ac athronyddu am ystyr y Frenhiniaeth. Yng Nghymru…
“Mae dau reswm pam y bu brenhiniaeth gyfansoddiadol, etifeddol yn gymorth tuag at greu a chynnal gradd o ryddid personol a rhai o’r breintiau sy’n gwneud bywyd yn oddefadwy. (i) Yr egwyddor fawr o wahaniaethu rhwng gwladwriaeth a llywodraeth. (ii) Rhoi i bobl hollol wirion, sef cyfran fawr o ddynol ryw, rywbeth i fod yn wirion yn ei gylch, a hwnnw’n rhywbeth cymharol ddiniwed.” (glynadda.wordpress.com).
… ac yn yr Alban …
“Mae’r hanesydd Albanaidd Tom Nairn wedi disgrifio y Goron Brydeinig yn gofiadwy ‘fel gwydr hud’. Mae’r cyhoedd yn ei gweld trwy ddrychau ystumgar y cyfryngau, sy’n pwysleisio rhai elfennau, yn cuddio eraill ac yn aml yn ei disgrifio mewn ffyrdd sy’n plygu gwirionedd hanesyddol.” (Cailean Gallagher ar bellacaledonia.org.uk)
Ac yn y ddwy wlad, maen nhw’n rhagweld fod hwn yn fwy na diwedd cyfnod, mae’n ddechrau ar ddiwedd mil o flynyddoedd o deyrnasu…
“Mae’r difrifoldeb chwerthinllyd a’r galaru gorfodol gymaint dros ben llestri, ddaw ddim da ohono. Tra bod gan bobol le ar gyfer rhywfaint o gofio a rhywfaint o sioc o golli parhad, fe fyddan nhw’n cael llond bol. Menyw a gafodd fywyd hynod o freintiedig gan fyw i droean mawr. Does fawr ddim trist am hynny… Roedd y Frenhines yn rym unoliaethol pwerus a dyw’r sylw lled hysterig i’w marwolaeth ddim am allu papuro tros y craciau.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)
“Bydd y dadfeilio’n araf, ac mae’n debyg o ddechrau y tu fas i’r Deyrnas Unedig ei hun wrth i’r gwahanol diriogaethau ac eiddo ddechrau holi pa mor annibynnol ydyn nhw mewn gwirionedd os yw rhywun arall yn penodi pennaeth eu gwladwriaeth. Mae’r broses o droi at weriniaethau’n debyg o gyflymu… Y newyddion drwg i Charles III yw mai ychydig iawn y gall ef ei wneud i atal y symudiad anorfod at weriniaethau; y newyddion da iddo fel unigolyn o leia’ yw na fydd y broses yn gofyn am wahanu ei ben oddi wrth weddill ei gorff y fel digwyddodd i’r Charles cynta’ i fod yn frenin.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)
Nid dim ond pennaeth gwladwriaeth, chwaith. I Ifan Morgan Jones, mae gallu’r Brenin i benodi ‘Tywysog Cymru’ yn fwy o broblem …
“Mae’n mynd yn groes i’r cyfan y mae Cymru wedi brwydro a phleidleisio drosto yn ystod yr hanner canrif ddiwetha’ o leia’ – am drefn llywodraeth sy’n rhoi llais i ni. Bellach mae gyda ni Senedd, mae gyda ni Lywodraeth Gymreig. Ond mae teitl ‘Tywysog Cymru’ yn rhywbeth sy’n gallu cael ei bennu ar ein rhan gan sefydliad na bleidleisiodd neb iddo, yn enwedig yng Nghymru.” (nation.cymru)
Presenoldeb y Prif Weinidog newydd ar y daith alaru frenhinol sy’n poeni Peter Black…
“Mae gan Truss eisoes enw am ‘chwilio am sylw’, gan dreulio llawer o’i hamser yn Ysgrifennydd Tramor yn postio lluniau ohoni ei hun ‘ar daith’ neu yn dynwared Margaret Thatcher ar ben tanc mawr. Ond mae’r stỳnt diweddara’ yma yn teimlo fel un yn ormod. Y peryg, wrth gwrs, yw y bydd hi’n suro ymwneud y Brenin newydd gyda phobol gyffredin… Fydd cael eu cysylltu mor agos gyda Phrif Weinidog cyfredol, dadleuol, anetholedig, mor gynnar yn ei deyrnasiad yn gwneud dim lles i’r frenhiniaeth.” (peterblack.blogspot.com)