Yn dad i bump o blant, mae Prif Weithredwr newydd 48 oed YesCymru yn rhannu ei amser rhwng Aberystwyth a Chaerdydd…
Pam bod YesCymru angen Prif Weithredwr?
Mae cwmni newydd o’r enw YesCymru Cyf. wedi cael ei greu a nifer o gynigion wedi eu rhoi ger bron yn ystod y broses greu, gan yn agos i bedair mil o’r aelodau.
Ac un o’r pethau gafodd eu cynnig oedd cael Prif Weithredwr i ddechre’r broses o broffesiynoli ac adeiladu ymgyrch broffesiynol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Yn gyntaf oll, mynd nôl at yr hen aelodau sydd heb ail-ymaelodi, a dwyn perswâd arnyn nhw i wneud. Ac wedyn ceisio cael aelodau newydd.
Mae adeiladu’r gefnogaeth ddofn ac eang yna yn allweddol.
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn hyn?
Fe ddechreues i weithio yn y busnes teuluol pan oeddwn i yn saith neu wyth oed, a dros y ddegawd ddiwethaf rydw i wedi arwain y cwmni yna – Rhiannon Cyfyngedig.
Darn craidd y busnes yw dylunio a chreu gemwaith Cymraeg a Chymreig, ac mae’r ganolfan yn Nhregaron sydd gydag oriel gelf, amgueddfa celfyddyd Geltaidd, siop grefft, siop lyfra a gweithdai gemwaith lle’r ydych chi’n gweld gemwaith yn cael eu gwneud.
Ydych chi am fod yn amlwg ar y cyfryngau?
Dw i ddim eisiau bod ar y cyfryngau!
Ond mae e’n rhan annatod o’r swydd, ac os daw cais, mae yn rhaid i fi siarad.
Fel mae’n digwydd, mae Pawb a’i Farn wedi hela cais mewn yn barod…
Beth, mewn brawddeg, yw’r ddadl orau tros annibyniaeth?
Mae yna restr hirfaith o ddadleuon o blaid annibyniaeth… yn y pen draw, does dim ots pwy sy’n arwain yn San Steffan, byddan nhw ddim yn arwain na chreu cyfraith yn unol â blaenoriaethau ni yng Nghymru.
Mae yn rhaid i ni gael annibyniaeth er mwyn i ni osod y blaenoriaethau yna ein hunain.
Ydych chi wedi bod i un o ralïau YesCymru?
Sa i wedi llwyddo i fynd i unrhyw un o ralïau YesCymru, yn bennaf achos rydw i wastad yn gweithio neu yn dosbarthu neu yn gwarchod plant.
Fydda i yn mynd i’r un yng Nghaerdydd ar Hydref y cyntaf.
Beth yw eich atgof cynta’?
Hen beiriant argraffu Gestetner anferth yr oedd fy mam yn ei ddefnyddio i argraffu posteri ag ati. Roedd e’n fwystfil o beiriant, yn hudol ac arswydus i blentyn, yn creu sŵn a phoeri mas y posteri lliwgar yma.
Sut le yw eich cartref?
Prysur, swnllyd, yn llawn hwyl a sbri. Cartref llon iawn. Rydw i’n hoff iawn o wneud dwli gyda’r plant.
Rydw i yn byw yn Aberystwyth a hefyd yng Nghaerdydd, ond mae’r plant ym Mhontcanna yng Nghaerdydd.
Mae un o’r meibion yn nofio ar lefel uchel ac yn cystadlu yn y tumbling gymnastics dros Gymru, a does dim modd i wneud y pethau yna ar y lefel y mae e’n eu gwneud nhw yn Aberystwyth.
Beth yw eich ofn mwya’?
Bo fi ddim yn byw i weld Cymru annibynnol.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Nofio.
Roeddwn i yn arfer rhedeg 800m a chwarae rygbi, felly mae nofio yn grêt achos dyw e ddim yn rhoi pwysau ar hen anafiadau. Ac mae e’n ffordd wych o gadw’n heini.
Beth sy’n eich gwylltio?
Nid yn unig bod ni yma yng Nghymru gyda channoedd o filoedd o blant mewn tlodi, ond bod gymaint o wledydd yn y byd gorllewinol gyda phlant mewn tlodi.
Pa werth cyfoeth os ydy plant mewn tlodi?
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Fy nheulu agos, y plant a’r partner.
Dim lot o ots am y bwyd, ond bydde sushi yn mynd lawr yn dda. Ry’n ni yn ffans mawr o sushi.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Meindiwch eich busnes!
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Rydw i yn gorddefnyddio ‘Nid da lle gellir gwell’, a dyw e ddim o reidrwydd yn un cadarnhaol…
Y llall rydw i yn defnyddio yn aml yw ‘Mewn undod mae nerth’. Mae honna yn un gwbl gadarnhaol ac yn un gyda gwers drwyddi draw ar hyd a lled Cymru. Achos yn hanesyddol yr hyn sy’n aml wedi dal Cymru yn ôl yw diffyg undod.
Hoff wisg ffansi?
Siwt gorila.
Hoff gerddoriaeth?
Fi’n eithaf eclectig o ran cerddoriaeth, ac yn hoff iawn o jazz, blues, clasurol, ac rydw i wedi bod yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth Cymraeg yn ddiweddar.
Roeddwn i yn gwrando ar lot o gerddoriaeth Gymraeg yn fy arddegau a fy ugeiniau, ac yn mynd i’r Cnapan a’r Steddfod.
Wel, wrth gwrs, daeth y Steddfod i Dregaron eleni, a wnes i fethu mynd. Ond roedd Jess yn chwarae, a wnaeth e atgoffa fi amdano’r gerddoriaeth Gymraeg.
Gwyliau gorau?
Prin yn ystod fy oes fy mod i wedi bod ar wyliau, achos bod wastad gymaint i’w wneud a doedd dim lot o arian ganddo ni pan oedden ni yn blant. Doedden ni ddim yn mynd i ryw lawer o lefydd gyda fy mam a fy nhad.
A fi wedi bod bant ac wedi teithio yn aml gyda gwaith, neu orfod mynd i briodas deuluol – mae fy mhartner i yn hanner Maltese a hanner Jamaican.
Ond na, does gen i ddim atgof o unrhyw wyliau arbennig.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Rwy’n cysgu fel twrch.
Mae digon o heriau i’w hwynebu pan ddaw’r bore, does fawr ddim o bwrpas poeni amdanynt yn y nos.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Yn Gymraeg, cyfres Anturiaethau Twm Siôn Cati gan T Llew Jones, wnes i eu darllen yn ddeg oed.
Ac yn Saesneg, To Kill a Mockingbird gan Harper Lee, wnes i ddarllen ar ddiwedd fy arddegau.
Rydw i wedi darllen lot, ac mae’r rheina yn sefyll allan.
Hoff air?
Cythryblus.