Mae Golwg wedi codi’r wal dalu i chi gael mwynhau’r erthygl hon.
Mae Huw Onllwyn wedi holi un o fawrion gwleidyddol y genedl ar gyfer cyfres o erthyglau hynod i Golwg.
Yn fwyaf cyfarwydd am fod yn Llywydd cynta’r Cynulliad, a drodd maes o law yn Senedd Cymru, bu Dafydd Êl yn rhan o ddodrefn gwleidyddol Cymru byth ers cael ei ethol yn Aelod Seneddol ieuengaf Prydain nôl yn 1974, a hynny tros Blaid Cymru ym Meirionnydd.
Yn rhan ola’r cyfweliad cynhwysfawr cyntaf iddo ei roi ers iddo ymddeol o’r byd gwleidyddol y llynedd, mae’n trafod y posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru, ei frwdfrydedd tros ynni niwclear, a dyfodol yr iaith…
Roeddwn am gael barn Dafydd ar le fydd Cymru mewn 20 mlynedd… gwlad annibynnol?
“Nid dyna’r cwestiwn priodol,” meddai’r cyn-wleidydd 75 oed. “Mae yna ormod o genedl-wladwriaethau annibynnol yn y byd yn barod. Er hynny, hoffwn weld yr Alban yn cael refferendwm arall, a gweld llywodraeth y DU yn parchu’r canlyniad – rwy’n edmygu Nicola Sturgeon yn fawr.
“Ond,” meddai, “mae angen cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru – ynghyd â Gweriniaeth Iwerddon. Sef cyd-ddealltwriaeth am y gyd-berthynas fydd yn gorfod dilyn unrhyw refferendwm llwyddiannus. Mae angen bod yn hyblyg – ac fe fydd angen Confensiwn Cyfansoddiadol parhaol i ddelio efo’r datblygiadau. Fe fydd rhaid i ni gydweithio drwy’r Confensiwn. Mae daearyddiaeth ein hynysoedd yn gorfodi hynny. Ac fe fydd yn bwysig iawn, hefyd, i osgoi unrhyw wrthdaro ar ynys Iwerddon.”
Ond a fydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ariannu Cymru a’r Alban o dan y fath gyfundrefn? Onid oes risg na fydd pobl Lloegr am eu hariannu ymhellach?
“Yn sicr,” meddai, “fe fydd angen adolygu’r fformiwla Barnett [sy’n penderfynu faint o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru].
“Ond yn y cyfamser,” meddai, “dw i ddim yn rhagweld Cymru’n pleidleisio i fod yn wlad annibynnol – a dw i’n derbyn y bydd y bygythiad o weld bwlch anferth yn ein cyllid yn broblem anodd ei oresgyn i’r rheini sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth. Yr hyn sydd ei angen, felly, yw gwell diffiniad o beth yw ystyr gwlad annibynnol ar yr ynysoedd yma yn y 21ain ganrif – a hynny mewn perthynas ag Ewrop a gweddill y byd.
“A dweud y gwir, mae angen cael gwared â’r gair ‘annibyniaeth’. Mae hynny’n golygu rhywbeth ôl-ymerodrol. Megis annibyniaeth o’r famwlad. Ond mae’r Alban a Chymru ill dau yn famwlad i’w trigolion.
“Mae angen meddwl am strwythur cyd-ffederaliaeth – yn ôl i syniadau Gwynfor Evans am y Britannic and Goidelic Federation. Gall fod yn haws fynd ar y daith i greu system ffederal, yn hytrach na chreu gwledydd annibynnol. Yn wir, ni allaf ddeall pam byddai annibyniaeth yn uchelgais i unrhyw un yn y ganrif bresennol. Wedi’r cyfan, nid oes y fath beth ag annibyniaeth yn bodoli. Cyd-ddibyniaeth a chyd-gyfrifoldeb sy’n rhesymol, heddiw.
“Mae’r darlun sydd angen ei greu yn un cymhleth ac ansicr, felly. Ond ni allwn fod ar ben ein hunain. Mae angen i ni fod yn bartneriaid cydradd o fewn rhyw drefn newydd. Fe fyddwn angen rhannu gwasanaethau cyffredin (megis amddiffyn) – ond mae angen datganoli pethau fel y rheilffyrdd ac ynni.
“Gyda llaw, rwy’n cefnogi ynni niwclear – ac wedi cyfarfod cwmni Rolls Royce er mwyn trafod eu gorsafoedd niwclear bach. Braf fyddai eu gweld nhw’n agor ffatri i adeiladu’r darnau yn Nhrawsfynydd!”
“Adam yw’r arweinydd mwyaf disglair a gafodd y Blaid erioed”
Gofynnais a oedd cydweithio Adam Price efo Mark Drakeford yn adlewyrchu sut oedd ef wedi cydweithio efo’r Blaid Lafur ar hyd ei yrfa.
“Ydy, yn sicr,” meddai. “Ac Adam yw’r arweinydd mwyaf disglair a gafodd y Blaid erioed. Rwy’n hapus efo’i weledigaeth – a dw i o’r farn fod dêl Adam efo Mark yn beth gwych iawn i’r Blaid. “Roedd Mark yn hapus i wneud beth bynnag oedd ei angen er mwyn sicrhau llywodraeth sefydlog yn ystod diwedd ei gyfnod fel Prif Weinidog – ac fe fanteisiodd Adam yn llawn ar hynny.”
A oes modd i’r Blaid dorri allan o’r ardaloedd Cymraeg?
“Mae angen i ni beidio meddwl am ‘ardaloedd Cymraeg’,” meddai Dafydd.
“Mae’r iaith yn perthyn i bobman. Ac mae angen i ni feddwl am ein gilydd fel cyd-ddinasyddion, y Kymry. Rydan ni yma yn byw gyda’n gilydd – a does dim gwahaniaeth rhwng y wlad a’i phobl. Fe wnaeth yr Athro J R Jones lanast o hyn drwy gyfeirio at gydymdreiddio iaith a thir. Wel, dyw hynny ddim yn gallu digwydd – a tydi o ddim fod i ddigwydd. A dweud y gwir, mae’n syniad lled ffasgaidd. Brand y Blaid yn y cyfamser, wrth gwrs, yw the Party of Wales. Mae’n perthyn i bobman, fel yr iaith.”
Dyfodol yr iaith, S4C a Radio Cymru
Beth am ddyfodol yr iaith? Yw e’n saff? Yw anelu at greu miliwn o siaradwyr yn bolisi call?
“Mae ein plant yn ei dysgu,” meddai Dafydd, “ond ddim yn ei defnyddio – a ddim yn gwylio S4C na’n gwrando ar Radio Cymru. Mae’n wych bod y nifer sy’n derbyn addysg ddwyieithog wedi cynyddu’n aruthrol. Ond rhaid dilyn hwnna efo mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Fel roedd Wittgenstein yn ei ddweud: ‘yr ystyr yw’r defnydd’.
“Yn y cyfamser, mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i esbonio i’r genedl beth yw’r manteision i ni o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.”
Beth am Fesur Iaith 2011? A yw wedi ei ddefnyddio’n gall gan Gomisiynodd y Gymraeg? Er enghraifft, targed diweddaraf y Comisiynydd o ran safonau iaith yw rhyw gorff sy’n darparu gwasanaethau i ddeintyddion. A yw’r Comisiynydd wedi colli’r plot?!
“Fy marn i,” meddai Dafydd, “oedd fod blynyddoedd o werth ar ôl yng nghynlluniau iaith Deddf 1993 – a, beth bynnag, nid oes modd achub y Gymraeg drwy system o safonau iaith. Hyrwyddo’r defnydd o’r iaith sy’n bwysig.”
Wedi dweud hynny, roedd Dafydd yn fodlon cydnabod bod y safonau hybu yn gallu sicrhau hyrwyddo’r defnydd, drwy orfodi awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau er mwyn gwneud hynny. Roedd yn cydnabod, hefyd, y gall fod gwerth yn y safonau sy’n sicrhau amodau ieithyddol i gyd-fynd efo dyrannu arian cyhoeddus – ac yng ngrymoedd y Comisiynodd i sicrhau ymrwymiad i’r safonau.
Ac o ran hyrwyddo’r defnydd, roedd Dafydd yn gefnogol i waith y mentrau iaith. Cynigais mai peth da fyddai cynnig £1m y flwyddyn yr un iddynt. Cytunodd!
O ran dyfodol S4C, esboniodd nad oedd yn gwybod digon am sefyllfa’r sianel. Nododd, fodd bynnag na fyddai nifer o raglenni S4C (megis y Sioe Fawr, seiclo, pêl-droed Cymru) ar gael gan neb arall.
“Rwy’n teimlo, felly,” meddai, “ein bod yn cael gwasanaeth da gan y sianel.”
Cytunodd fod yna gyd-berthynas rhwng S4C a Radio Cymru nad sydd i’w weld cymaint rhwng, er enghraifft, BBC2 a Radio 1 – a gall canfyddiad negyddol am un effeithio ar apêl y llall.
“Mae Radio Wales yn well na Radio Cymru,” meddai.
“Yr hyn rwyf mwyaf balch ohono”
A’r dyfodol?
“Wel, rwyf wedi ymddeol heblaw am f’aelodaeth o un o baneli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a fy ngwaith fel canon lleyg yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn y cyfamser, rwy’n lled hapus efo sefyllfa Cymru,” meddai Dafydd.
“Ond yr hyn rwyf mwyaf balch ohono yw fy mod wedi byw trwy gyfnod lle mae Cymru wedi newid yn llwyr – a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na fedrwn barhau i newid. Mae’r cyfan yn dibynnu ar ewyllys democrataidd pobl Cymru a’u hawydd i ddianc ymhellach o grafangau San Steffan er mwyn dod yn wlad fwy cydradd.
“Gallwn adeiladu drwy lywodraeth sy’n cymryd rhan mewn cyd-weithio adeiladol rhwng gweinidogion a chynrychiolwyr o wahanol wledydd.”
Diweddglo
A dyna fe.
Ychydig o hanes gwleidydd a fu ar dân dros ei wlad ers ei arddegau – ac a ddewisodd lwybr cul, ac anodd, fel ‘gwleidydd cynrychioladol confensiynol’ er mwyn cyflawni’r dasg.
Ymhlith yr holl brotestio, y cwyno, a’r cecru, bu Dafydd yn un o’r grown-ups yn ein plith. Yn ddylanwadol tu cefn i ddrysau dirgel Whitehall a San Steffan. Yn dysgu gwersi, cam wrth gam. Gyda’i rwydweithiau eang o gysylltiadau ar draws y byd gwleidyddol – a’i feddwl craff a gofalus – fe aeth ati yn ddygn ac yn ddi-gŵyn, dros ei wlad.
Ac yna fe ddiflannodd yr wylan olaf – ac fe ddiolchais i’r dyn sydd wedi treulio’i holl fywyd yn ymgyrchu i gael Senedd i Gymru.
Ac mae gennym Senedd.