Roedd Nigel Slater, y cogydd a’r awdur llyfrau coginio, yn un o gwsmeriaid rheolaidd gwerthwr caws sydd wedi agor siop ar Ynys Môn yn ddiweddar.

Cyn symud o Lundain, roedd Ed Billins yn rheolwr un o siopau caws mwyaf adnabyddus y ddinas, La Fromagerie, ac mae’n gweithio yn y maes ers tua deuddeg mlynedd.