‘Byddai gwobrwyo’r nofel hon… yn arwain at ddiwedd nofelau yng ngwisg hardd ein heniaith’ – barn hallt Emyr Llywelyn ar nofel fuddugol

Mae trafodaeth danbaid wedi cael ei thanio yn dilyn sylwadau un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol am y defnydd o Saesneg yn y nofel fuddugol, Capten gan Meinir Pierce Jones.