Mae gwaith dylunydd ffasiwn ifanc o Ardudwy yn gwbl ddibynnol ar natur.

Ei magwraeth ar fferm ym mhentref Llandecwyn a’i pherthynas agos â’r byd naturiol yw’r dylanwad mwyaf ar ddyluniadau Manon Wilson.

Gan amlaf, mae Manon yn defnyddio gwastraff neu ddeunyddiau naturiol i greu’r dillad.