Fe ddaeth sioe deithiol yr ymerodraeth newydd i Gymru aka ras arweinyddiaeth y Blaid Dorïaidd. A doedd Ben Wildsmith ddim wrth ei fodd o weld Rishi Sunak a Liz Truss…
“Wnaeth y naill ymgeisydd na’r llall ddim gwisgo ‘pith helmet’ wrth iddyn nhw fanglo ychydig o Gymraeg neu gil-chwerthin am Shirley Bassey a chig oen, ond y cywair oedd cyfarch y brodorion, gan gynnwys edmygu ‘gweledigaeth’ Andrew RT Davies er nad oedd y naill na’r llall, dw i’n amau, wedi clywed amdano cyn paratoi am y digwyddiad. Y sylwedd, cymaint ag oedd yna, oedd addo ‘gweithredu’ o San Steffan i wrthbwyso grymoedd y Senedd… Gan gydio’n dynn yn eu cardiau ‘Ready4Rish!’ a ‘Liz for Leader’, roedden nhw’n ymddangos yn griw anghyfforddus yn gymdeithasol… ond un peth yn fwy na dim oedd yn eu huno: ffordd liniaru’r M4.” (nation.cymru)
Mae’r ddau ymgeisydd yn rhan o’r duedd i ystyried mai Lloegr yw Prydain ac, mae honno, meddai Gerry Hassan (mewn erthygl fenthyg o thenational.scotland) yn broblem…
“Mae chwedl ‘Lloegr yw Prydain’ yn gwneud drwg ac yn llesteirio holl genhedloedd y Deyrnas Unedig. Wrth ystyried refferenda ynghylch llywodraeth ddemocrataidd a’i dyfodol, nid damwain yw hi fod yr Alban wedi cael tri refferendwm, Cymru tri a Gogledd Iwerddon ddau, a Lloegr heb gael yr un. Dyw dosbarth llywodraethol San Steffan ddim wedi gofyn unwaith i bobol Lloegr beth maen nhw’n gredu yw’r ffurf lywodraeth fwya’ addas. Hynny, oherwydd byddai gofyn yn dechrau chwalu’r holl system…” (thenational.wales)
Y system addysg sy’n poeni John Dixon, gyda phwyslais y ddau ymgeisydd ar hyrwyddo ysgolion gramadeg ac addysg-er-mwyn-cyfoeth. Polisi Affganistanaidd, meddai…
“Mae’r Taliban yn dethol ar sail rhyw: i bob pwrpas, maen nhw’n eithrio merched o fyd addysg, gan nad oes gan ferched ddim swyddogaeth ym mywyd economaidd neu gymdeithasol y wlad ac mae angen iddyn nhw nabod eu lle. Mae’r Torïaid eisiau dethol yn 11 oed ar sail incwm y rhieni*, gan roi gwell addysg i blant yr 20% cyfoethoca’ nag i’r gweddill, sydd angen nabod eu lle mewn cymdeithas. Manylion nid hanfod yw’r gwahaniaeth. Mae’r ddau’n gweld addysg yn ffordd o wasanaethu eu duw, yn hytrach na’r plant – yn achos y Taliban, Allah, ac i’r Torïaid, Mamon.
* Ia, dw i’n gwybod eu bod mewn gwirionedd eisiau dethol ar sail profion ac arholiadau, ond mae gyda ni 60 mlynedd o waith ymchwil da sy’n dangos bod incwm rhieni yn fesur arbennig o dda o lwyddiant yn yr arholiadau hynny.” (borthlas.blogspot.com)