Dyw Maes yr Eisteddfod byth yn brin o wynebau cyfarwydd, ond roedd yna un ymwelydd eithaf annisgwyl dros y penwythnos.

Bu Jeremy Corbyn, cyn-arweinydd y Blaid Lafur, yn ymweld â’r Brifwyl yn Nhregaron ddydd Sadwrn, ac i’w weld ar y cyfryngau cymdeithasol yn dal un o grysau-t y mudiad sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Roedd yn arwain y Blaid Lafur yn San Steffan rhwng 2015 a 2020, ac mae bellach yn eistedd fel Aelod Seneddol Annibynnol yn Nhŷ’r Cyffredin.