Yn y blynyddoedd diweddar mae cyn-aelod un o gangiau motobeics traddodiadol hynaf Cymru, Y Bleiddiaid, wedi bod yn troi ei law at sgrifennu.

Cafodd nofel gyntaf Wil Bing ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl, a bellach mae wrthi’n sgrifennu’r bedwaredd.

Daeth y beicar o Bwllheli, a gafodd ei fagu yn Nhregarth yn Nyffryn Ogwen, yn aelod o’r Bleiddiaid tua phymtheg mlynedd yn ôl.