Sioned Erin Hughes yn un o gyn-ddisgyblion Esyllt Maelor, enillydd y Goron yn Nhregaron…

Mi ddyfarnwyd trydydd prif wobr lenyddol yr Eisteddfod – y Fedal Ryddiaith – i ferch o Ben Llŷn.

Denodd y gystadleuaeth 17 o ymgeiswyr, a daeth Sioned Erin Hughes o Foduan i’r brig gyda chasgliad o storïau o dan y teitl ‘Rhyngom’. Y beirniaid eleni oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.