Does gan David TC Davies ddim “neges wleidyddol” i’w rhannu yn yr Eisteddfod eleni, er ei fod yn mynnu bod ei Lywodraeth yn “hollol gefnogol o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig”.

Wrth siarad â Golwg cyn ymweld â’r Brifwyl heddiw (4 Awst), dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru nad yw’n teimlo bod y Brifwyl “yn ddigwyddiad gwleidyddol”.

“Dw i wrth fy modd yn ymweld â’r Eisteddfod,” meddai.