Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi croesawu llond berfa o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throsedd, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi.

Mae prosiect Tref Caergybi wedi derbyn £692,149 gan y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel i’w wario ar brosiectau megis gosod 21 camera teledu cylch cyfyng (CCTV) a phecynnau atal troseddu mewn 250 o adeiladau’r dref forwrol.