Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron agosáu, fe fydd pobol ar draws Cymru yn edrych ymlaen at weld pa lyfrau, cyfrolau a darnau o lenyddiaeth fydd yn cael eu cyhoeddi yn y Brifwyl.

Un o’r llyfrau y gall Eisteddfodwyr edrych ymlaen ato eleni yw casgliad o erthyglau o’r enw ‘Dychmygu Cymru Annibynnol’, fydd ar werth am y tro cyntaf yn Nhregaron.

Cyhoeddir gan Melin Drafod – grŵp polisi sy’n dweud ei bod yn llunio agenda blaengar ar gyfer Cymru annibynnol.