• Noder: Mae’r erthygl yma yn trafod cymeriad ffuglennol yn ystyried rhoi terfyn ar eu bywyd

Mae actores o Sir Benfro wedi addasu ei drama hunangofiannol am fyw gydag anhwylder deubegynnol (bipolar) i’r Gymraeg ar gais yr Eisteddfod.

Fe fydd Ceri Ashe, sydd wedi byw yn Llundain ers 2011 ond yn hanu o Faenclochog, yn perfformio ei sioe Bipolar Fi yn Theatr y Maes ddydd Sul, Llun a Mawrth yr Eisteddfod.