Mae creawdwr Y Pump yn “methu aros” i weld be wnaiff awduron y gyfres nesaf, gan ddechrau ar Faes yr Eisteddfod.

Y Pump yw cyfres o bum nofel gysylltiedig am griw o ddisgyblion Blwyddyn 11 mewn ysgol uwchradd, a gafodd eu sgrifennu gan 10 o gyd-awduron. Enillodd y gyfres gyfan brif wobr categori’r ifanc Llyfr y Flwyddyn 2022, ac mae’r arbrawf llenyddol wedi cael ei chanmol yn helaeth.