Huw Bebb sy’n holi un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis, am ymgyrchoedd y gorffennol wrth i Gymdeithas yr Iaith baratoi i ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed

Yr wythnos nesaf ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Cymdeithas yr Iaith yn dathlu carreg filltir bwysig iawn.

Bydd y mudiad – sydd wedi chwarae rhan allweddol yn hanes modern Cymru – yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ac yn cynnal parti ar y Maes ddydd Iau (4 Awst).