Bydd yr ymgyrch i olynu Boris Johnson fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dod i Gaerdydd yr wythnos nesaf, gyda Rishi Sunak a Liz Truss yn cymryd rhan mewn hystingau ar Awst 3.

Un dyn sydd heb benderfynu pwy y mae o’n ei gefnogi ac sy’n awyddus i glywed gan y ddau ymgeisydd yw Samuel Kurtz.

Wrth siarad gyda Bwrlwm, dywed AoS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ei fod yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am bolisi economaidd y ddau ymgeisydd.