Mae AS Caerffili, Wayne David, wedi gwyntyllu’r syniad y dylai pobl gael trwydded wrth gael ci. Syniad sy’n sicr yn boblogaidd ymysg pobl sy’n casáu cŵn, grŵp o bobl na allwn fynegi fy marn arnynt heb lond colofn o regfeydd. Mae rhywbeth mawr yn bod ar bobl sy’n casáu cŵn. Rhywbeth mawr iawn.