Da clywed am arddangosfa’r artist Gareth Owen a’r daith dywys a drefnir yn Nhregaron i nodi cyfraniad helaeth James Kitchener Davies i fywyd Cymru (Golwg 23/6/22).

Ceir darlith ar hanes y bardd a dramodydd nodedig hwn am 12:30pm, Dydd Iau 4 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod gan yr Athro M Wynn Thomas.

‘Kitchener Davies, o Dregaron i Drealaw’ fydd y teitl, a bydd croeso mawr i bawb.

 

Dafydd Williams

Cadeirydd

Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Sgeti