Owain Rhys Davies wedi gweithio gyda Johnny Depp a David Lynch…

Ar ôl blynyddoedd yn Efrog Newydd a Los Angeles, mae actor o Gaerdydd ar fin dod adre i berfformio.

Cyn y pandemig, fe fuodd Owain Rhys Davies yn actio mewn ffilm Disney, ac yn gweithio ar gyfres newydd Twin Peaks i Sky Atlantic. Cyn hynny bu yn actio gryn dipyn yn sioeau’r West End, ac mewn dramâu llwyfan.