Gyda’i broject newydd mae Ynyr Roberts yn anelu at lenwi bwlch yn y farchnad am bop bachog yn Iaith y Nefoedd…
Ar ôl chwarter canrif o ganu mewn bandiau gitârs, mae Ynyr Roberts wedi troi at gynhyrchu caneuon pop.
Yn fwyaf adnabyddus fel canwr y band Brigyn, mae’r cerddor 42 oed yn camu o’i comfort zone a rhoi’r gitâr yn y to.
Gyda’i broject newydd – Popeth – mae wedi bod yn cyfansoddi caneuon pop ar biano a synths.
Mi fydd cân gyntaf Popeth – ‘Golau’ – allan yfory (8 Gorffennaf), gyda senglau eraill i ddilyn gydol y flwyddyn.
“Mae stwff Popeth yn ddipyn o gontrast i’r CD ddiwethaf wnes i wneud cyn locdawn yn 2019 efo Brigyn,” meddai Ynyr.
Roedd yr albwm Lloer “yn rhywbeth gaeafol, araf, lleddf iawn.
“Felly efallai fy mod i wedi cychwyn ar ryw daith newydd rŵan i wneud rhywbeth disglair, positif a hapus!”
Er iddo dreulio degawdau yn perfformio caneuon gwerin modern ac arbrofol gyda Brigyn, mae Ynyr wedi bod yn cael ei ffics o bop ar hyd y blynyddoedd.
“Dw i wastad wedi mwynhau’r math yma o gerddoriaeth,” meddai’r canwr sy’n Ddylunydd Graffeg wrth ei waith naw tan bump.
“Hyd yn oed pan dw i yn gweithio, dw i wastad yn ffeindio bod gwrando ar y math yma o gerddoriaeth, dyma’r math o beth dw i yn hoffi gael yn y cefndir. Pop positif disglair.”
Am beth yn union mae o’n sôn?
“O ran pobol dw i’n gwrando arnyn nhw yn aml, Duskey Grey, y band o ochrau Caernarfon…
“Ac mi fydda i yn gwrando ar bop fel Ani Glass, y ddau yna gyda chysylltiad Cymraeg.
“A pan dw i’n meddwl am enwau byd eang, y band Cheat Codes a Demi Lovato a Dua Lipa. A Christine and the Queens.
“Y math yna o gerddoriaeth, sef pop sy’n cael ei gynhyrchu yn gywrain.
“Dw i wastad wedi mwynhau gwrando ar y stwff yna, ac yn naturiol roeddwn i jesd eisiau creu rhywbeth fel yna yn y Gymraeg.
“Achos roeddwn i yn gweld bod y plantos a finnau yn gwrando ar lot o Olivia Rodrigo a Tones and I ac artistiaid fel yna, a bod yna ddim byd yn union fel yna yn Gymraeg.
“Ac roeddwn i jesd yn meddwl: ‘Dyma’r math o gerddoriaeth dw i yn hoffi, a dyma’r math o gerddoriaeth fyswn i yn hoffi wneud’.”
Mae mab a merch Ynyr – Deio sy’n 11 a Casi sy’n naw – wedi cael helpu Dad “i symud o fy comfort zone a chreu sŵn newydd”.
“Maen nhw yn gwrando ar lot o’r pop sydd wedi cael ei gynhyrchu yn gywrain, a dyna’r cyfan dw i wedi bod yn gwrando arno hefyd…
“Fel teulu, rydan ni wedi bod yn gwrando ar y clasuron fel Yws Gwynedd, Sŵnami, Candelas ac Ani Glass.
“Ond yn aml rydan ni yn troi at y pethau mae’r plant a’u ffrindiau yn hoffi, ac mae’r plant wedi helpu lot.
“Nid yn unig bod y plant wedi tynnu’r lluniau ar gyfer y photoshoot wnes i ar gyfer lansio’r project, ond nhw ydy’r critics, mewn ffordd, a nhw sydd yn awgrymu: ‘Be’ am i chdi gysylltu efo hwn-a-hwn i ganu ar y gân?’; ‘Oh Dad! Tydi hwnna ddim yn cool.’
“Mae cael safbwynt plant sy’n naw ac un-ar-ddeg oed wedi helpu fi i feddwl i ba gyfeiriad roeddwn i eisiau mynd efo’r project.”
“Dim snobyddiaeth, ond…”
Tra bod yna gelc parchus o fandiau gitâr gwych yn canu yn Gymraeg – Los Blancos, Papur Wal, Adwaith, Breichiau Hir – does yna ddim toreth o grwpiau sy’n gwneud caneuon pop sgleiniog a bachog.
Digon prin fu grwpiau fel Mega, Pheena a Clinigol ar hyd y blynyddoedd.
“Dw i’n meddwl bod yna lot o… dim snobyddiaeth, ond mae yna lot o ryw feddwl ffwrdd-â-hi: ‘Dim ond pop music ydy o – does yna ddim lot iddy fo’,” meddai Ynyr, wrth ystyried y diffyg pop Cymraeg.
Ac nid ar chwarae bach mae crefftio cân bop sy’n taro deuddeg, meddai.
“Y mwya’ ti’n gwrando ar ganeuon fel ‘Cut You Off’ a ‘Touch’ gan Little Mix… mae pwy bynnag sydd wedi sgwennu’r gân a’r alawon jesd yn wych.
“Mae yna gymaint i’w ddweud am gerddoriaeth bop… mae cerddoriaeth bop yn cael ei weld fel rhywbeth arwynebol iawn, ond pan ti’n ymddiddori ynddy fo, ti’n gweld bod lot o waith a lot o feddwl yn mynd fewn i gynhyrchu’r caneuon.”
Yn ogystal â chael barn ei blant ar ei ganeuon newydd, mae Ynyr wedi clywed gan yr artistiaid sy’n eu canu nhw.
Yn wahanol i stwff Brigyn, nid Ynyr sy’n canu ar ganeuon Popeth.
Ar y gân gyntaf i’w rhyddhau, ‘Golau’, mae merch ifanc o Gaerdydd o’r enw Martha Grug yn canu.
“Tydi hi erioed wedi canu ar record o’r blaen, felly mae hi’n gwneud hyn am y tro cyntaf,” eglura Ynyr.
Enw newydd arall sydd am fod yn canu ar rai o senglau nesaf Popeth yw Lewis Owen sy’n ddyn hoyw ac yn galw’i hun yn Bendigaydfran ar twitter.
“Beth sydd gen ti ydy egni hyderus a gwaed newydd brwdfrydig yn y sîn,” meddai Ynyr sydd hefyd wedi bod yn cydweithio gyda Kizzy Crawford ar ambell drac.
“Dw i wastad wedi gweithio efo bechgyn neu ddynion tu ôl i’r ddesg, felly mae o’n hyfryd pan ti’n cael gwahanol safbwyntiau.
“A dyna beth sy’n braf i fi, sydd wedi bod yn canu mewn band ers 1997, ydy dal i allu gwneud cerddoriaeth a chael rhyw ddeffroad cerddorol gyda’r don hyderus ifanc sydd o gwmpas rwan yn gwneud cerddoriaeth wych. Roedd albwm ddiwethaf Kizzy Crawford yn wych, Ac roeddwn i jesd mor falch pan wnaeth hi ddweud ei bod yn fodlon canu’r sengl nesaf efo fi.”
Ar siwrna
Ers ei gig gyntaf gyda’r band Epitaff mewn tafarn yng Nghaernarfon chwarter canrif yn ôl, mae Ynyr Roberts wedi recordio llu o albwms a chanu mewn gigs rif y gwlith.
Llwyddodd i gadw gyrfa gerddorol ar y cledrau tra yn magu teulu a thalu’r biliau… beth yw sail ei hirhoedledd?
“Dw i’n meddwl bo fi yn dal i fwynhau, ond dal i chwilio am ‘Y GÂN’, hwyrach.
“Dw i ar siwrne, ac wrth i’r siwrne fynd ymlaen, dw i’n meddwl bod gen ti ganeuon sy’n diffinio rhyw gyfnodau gwahanol, mewn ffordd.
“Roedd gen i gân o’r enw ‘Un Cynnig’ ar gychwyn gyrfa gyda’r band Epitaff, roedd yn rhyw roc gwyllt math o beth, yn dangos bod angst yr arddegau efallai wedi talu ar ei ganfed!
“Roedd rhywun yn rhoi ei deimladau i gyd yn y gân yn ei arddegau.
“Ac wedyn wrth i siwrna bywyd fynd yn ei flaen, wrth i fi aeddfedu, dechrau project Brigyn oedd yn fwy arbrofol – y gân efo’r delyn, ‘Os na wnei di adael nawr’, a rhyw bethau fel yna.
“Mae siwrna bywyd a’r anturiaethau ti’n gael fel cerddor yn wych, achos mae o’n gallu pinpointio lle wyt ti ar dy siwrne.”
Ac mae yn falch o gael cychwyn ar bennod newydd, Y Bennod Bop.
“Efallai nad ydy pawb eisiau cyfaddef eu bod nhw yn licio pop, ond… I’m putting it out there!
“Dw i yn ei roi o allan, dyma’r math o gerddoriaeth fydda i yn gwrando arno fo.
“Ac ella ei fod o’n rhywbeth sydd yn cael ei ddilorni – ‘dim ond plant sy’n gwrando ar y gerddoriaeth yma’.
“Ond na. Os ei di i gyngerdd Harry Styles, mae pobol o bob oed yna.”