Yn wreiddiol o Fro Morgannwg, mae’r gyn-fyfyrwraig ffasiwn 21 oed wedi dod yn agos at ennill cystadleuaeth Miss Cymru eleni.

Mae hi hefyd yn rhan o dîm cyflwyno tywydd cwbl fenywaidd cyntaf S4C…

Sut deimlad oedd cael y gwaith o gyflwyno’r tywydd ar S4C?

Wnes i fynd amdano fe ar ôl gwneud cwrs Meteoroleg gyda Phrifysgol Caerwysg cyn y cyfweliad, jest i wneud yn siŵr bod gen i ryw fath o ddealltwriaeth o’r tywydd.