Breuddwyd dau gariad yn y gogledd oedd agor encil i bobol fedru mwynhau natur, iaith a diwylliant Cymru, a dianc o brysurdeb bywyd am ennyd.

Mae’r freuddwyd honno bellach yn realiti, a’r ddau wedi agor maes gwersylla a glampio ecogyfeillgar ar gyrion dinas Bangor yng Ngwynedd.

Gobaith Bethan Lloyd a’i phartner Jacob Milner yw y bydd Cae Lal yn lle i bobol ddod yn ôl at eu coed, ac maen nhw’n cymryd pob cam posib i sicrhau bod y wersyllfa’n glên gyda’r blaned.