Mae stori’r bobol a ddaeth i Brydain o’r Caribî ar long y Windrush yn 1948 wedi ei hanfarwoli ar furiau tafarn boblogaidd yn Arfon…

Am un noson, roedd tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wedi ei throi yn oriel gelf – i gadw’r hanes am y bobol a ddaeth o’r Caribî i Brydain ar fwrdd y Windrush yn 1948 yn fyw.

Menter Gelfyddydol Bangor/Bangor Arts Initiative a oedd wedi trefnu ‘Arddangosfa Gelf Solidariaeth Windrush’ a oedd i’w gweld ym mwyty’r dafarn ar nos Iau olaf mis Mehefin. Roedd wedi cael nawdd gan Lywodraeth Cymru, drwy waith Cyngor Hil Cymru.

Roedd yr arddangosfa eisoes wedi ymweld â dwy dafarn arall dros y deuddydd cynt – Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen, a’r Stag Inn ym Mae Cemaes ym Môn.

Roedd yn rhan o wythnos flynyddol sy’n cofio am laniad llong fawr yr Empire Windrush yn Tilbury Dock yn Essex ar 22 Mehefin, 1948. Roedd yn cludo dros 450 o deithwyr o’r Caribî a oedd wedi ymateb i alwad Llywodraeth Prydain am weithwyr yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

“Rydyn ni’n ceisio mynd at y bobol yn hytrach na gofyn i bobol ddod i’r oriel (yng Nghanolfan Deiniol, Bangor) fel ein bod ni’n gallu ymgysylltu â’r gymuned leol, a dweud y stori a’i chadw’n fyw,” meddai Maggie Doherty ar ran Menter Gelfyddydol Bangor. “Mae eisio i bobol sylweddoli beth ddigwyddodd a pham ei bod yn bwysig ei wneud yma yn nhafarn y Bachgen Du.

“Pe baen ni ond yn ei chynnal ym Mangor am wythnos, fe fyddai’r bobol yn galw i mewn, ond yn y fan yma, rydan ni’n medru lledaenu’r neges. Ddoe, mi wnaethon ni gwrdd â llwyth o bobol nad oedd yn gwybod yr hanes o gwbl.”

Un o artistiaid yr Arddangosfa yw Mfikela Jean Samuel, arlunydd o Fangor a ymfudodd i Gymru o Gamerŵn yn 2014. Llun trawiadol o’r ‘Empire Windrush’ yw un o’i luniau – y llong a’r bobol ar ei bwrdd mewn lliwiau tawel du a gwyn, ond yr awyr a’r cefndir yn felyn llachar.

“Ro’n i eisiau canolbwyntio mwy ar y stori nag ar brydferthwch y llong,” meddai Mfikela wrth Golwg. “Ro’n i’n awyddus i ddefnyddio lliwiau amlwg a rhai sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’i gilydd. Mae’r meddwl yn tanio wrth i chi gael cip sydyn ar y darlun. Rydych chi’n sylwi ar y lliwiau cyferbyniol, ac yna’n gweld y stori. Doeddwn i ddim eisio iddo fod yn neis-neis, ond eisio iddo ennyn chwilfrydedd.

“Mae stori’r Windrush yn un mor bwysig i hanes y Deyrnas Unedig gyfan. Roedden ni’n meddwl bod mynd â’r arddangosfa i’r bobol ddeg gwaith yn well nag eistedd yn rhywle yn aros i’r bobl ddod i’w gweld.”

Bellach, mae stori’r Windrush yn gysylltiedig â sgandal wleidyddol fawr yn 2018. Am ba reswm bynnag, fe benderfynodd Llywodraeth Prydain fygwth anfon rhai o genhedlaeth y Windrush a oedd heb ddogfennau dilys yn ôl i wledydd eu geni, eu cadw’n gaeth, neu atal eu hawliau. Yn 1948 roedden nhw wedi cael eu hargyhoeddi eu bod nhw’n ddinasyddion llawn, am iddyn nhw ddod yma ar wahoddiad y Llywodraeth.

“Dw i’n meddwl bod rhai pobol yn dal i synnu pa mor gyflym y mae posib anghofio hanes,” meddai Mfikela Jean Samuel, sy’n siarad iaith Lamnso. “Dyma bobol a ddaeth i Brydain yn 1948 – ddaethon nhw ddim ar eu pen eu hunain, fe’u gwahoddwyd gan bobol y wlad yma i helpu ail-godi’r wlad yn ei hôl…

“Mi gawson ni gyd fraw o weld pa mor sydyn rydyn ni’n gallu newid. Diolch byth, mi gododd llawer o bobol eu llais yn erbyn yr anghyfiawnder ofnadwy yma. Mae pobol yn dal i siarad am y peth heddiw, yn cofio’r peth gyda syndod – sut ar y ddaear allen ni fod wedi anghofio? Nid hen hanes ydi o.”

MIfkela Jean Samuel, ‘Empire Windrush’

Tocynnau

Darlun arall trawiadol ar fur bwyty’r Blac Boi oedd ‘Ticket’ gan Rhona Bowey – artist o Fangor sydd wedi byw lawer o’i hoes ym Mhortiwgal. Yn y llun, fe welir pobol â’u bagiau yn cerdded mewn rhes i adael bwrdd y llong, a rhoi eu traed ar dir dieithr iawn.

“Mi wnes i ganolbwyntio ar yr hanes a dychmygu beth petai fy nheulu i wedi cael dod draw,” meddai. “Ar Ancestry.com fe allwch chi weld yr holl ddogfennau, a’r llawysgrifen hyfryd yma yn cofnodi’r enwau, a beth oedd eu gwaith – roedd rhai yn beirianwyr, eraill wedi gadael eu bywydau, wedi gadael eu gwŷr, neu eu plant… ac mae hynny i gyd ar-lein. Mae cymaint wedi’i ddogfennu amdano.

“Roeddwn i eisio dangos solidariti efo’r bobol yma, a dewisais rai o’r enwau i’w defnyddio yn y llun. Mae’r manylion yn sobor o swyddogol… Dw i wedi gosod y tocynnau ar hyd y llun, a rhoi sgwariau’r tocynnau coll ar wynebau’r bobol, i gynrychioli pwy ydyn nhw. Y nhw fyddai un o’r tocynnau coll hyn, yn y bôn.”

Er i’r arddangosfa fer ddod i ben yng Nghaernarfon, bydd y gwaith yn dal i’w weld ar-lein, ar wefan ac ar gyfrifon cymdeithasol y ‘Bangor Arts Initiative’. Mi allwch chi hefyd weld rhai o’r darluniau ar furiau’r Black Boy am gyfnod byr eto.

“Fe fydd fy narluniau i i’w gweld yn fy arddangosfeydd i yn y dyfodol,” meddai Mfikela. “Mae’r stori yn aros, mae’r stori yn parhau.”

Mae Mfikela hefyd yn siaradwr cyhoeddus –  ‘motivational speaker’ – sy’n mynd i sgwrsio gyda phobol ifanc mewn gwahanol wledydd yn Affrica. “Dw i’n eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu bywydau,” meddai, “a defnyddio’r doniau sydd gan bob un ohonyn nhw fel unigolion, fel bodau dynol, cyn cwyno gormod.

“Mae yna lawer y gallan nhw ei wneud; mae yna lawer y gall un unigolyn ei wneud a’i gyflawni, pan fyddan nhw’n defnyddio eu potensial eu hunain.”

Rhona Bowey a’i phaentiad ‘Ticket’