Bob hyn a hyn mi fydd Golwg yn codi’r wal dalu – pay wall – ar un o erthyglau’r cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Roedd un o actoresau enwocaf Cymru yn awyddus iawn i actio mewn ffilm am fenyw lesbiaidd mewn cartref gofal, yn ôl yr awdur a’r cynhyrchydd.

Doedd Rachel Dax yn methu credu ei lwc pan gytunodd y Fonesig Siân Phillips, un o actoresau enwocaf y byd, i gymryd rhan yn ei ffilm fer am ddwy fenyw hoyw.

Awdur, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm o Firmingham yw Rachel, sy’n byw yng Nghaerdydd ers dros ugain mlynedd.

Ers ei dangos gyntaf yn 2019, mae ei ffilm Time & Again wedi cael ei chanmol yn eang. Fe’i gwelwyd mewn 50 a rhagor o wyliau ffilm, ac mae wedi ennill 13 o wobrau. Mae wedi cael ei darlledu ar BBCWales, BBCFour, a buodd ar BBCiPlayer am flwyddyn gron.

Fe fydd Time & Again nawr i’w gweld yn rhan o sesiwn ffilmiau byrion ‘Its Ain’t Over Til it’s Over’ yng nghanolfan y Chapter, Caerdydd ar 9 Gorffennaf. Dyma gyfres o ffilmiau sy’n edrych ar fywydau a charwriaethau menywod lesbiaidd, deurywiol a Chwîar hŷn. Mae’r digwyddiad yn rhan o ŵyl ffilmiau lesbiaidd flynyddol LezDiff.

Yn Time & Again, mae’r Gymraes Siân Phillips a’r Albanes Brigit Forsyth yn actio dwy ddynes yn eu 80au, sy’n cwrdd â’i gilydd mewn cartref gofal, 60 mlynedd ar ôl iddyn nhw fod yn gariadon.

“Anrhydedd mwyaf fy mywyd yw gweithio gyda Siân Phillips,” meddai Rachel Dax mewn cyfweliad gyda Golwg. “Nid yn unig ei bod hi’n actores wych, ond mae hi’n berson neis iawn hefyd. Roedd hi wedi ymroi i’r rhan, wedi ei chyffroi gan y sgript, ac roedd hi eisiau iddi fod mor wych ag y gallai fod. Fe wnaeth hi drin fy ffilm fach i â chyllideb isel fel ffilm enfawr werth miliynau o bunnoedd.”

Yn ei ffilmiau mae Rachel Dax yn ymdrin â menywod a’r byd hoyw, a’r heriau mae pobol o’r gymuned LHDT+ yn eu hwynebu bob dydd – mater sy’n agos iawn at ei chalon.

“Dw i’n lesbiad fy hun, ac yn ymddiddori’n fawr mewn materion LHDT.

“Fe fues i i ŵyl ffilmiau yn Llundain, a gweld cwpl o ffilmiau am lesbiaid hŷn. Er eu bod nhw’n ffilmiau gwych, roedd pob diweddglo yn drist iawn. Ro’n i eisiau rhoi safbwynt gwahanol ar sut y gallai pethau fod i fenyw hŷn – a fyddai modd i rywun hŷn gael diweddglo hapus fel rhywun lesbiaidd, ac a all merched hŷn fod yn dal i gael eu gweld fel rhai sydd â rhywioldeb. Hyd y gwn i, nid yw rhywioldeb pawb yn dod i ben yn 65 oed neu bryd bynnag y maen nhw’n meddwl bod hynny yn digwydd.”

Wythnosau ar ôl yr ŵyl yn Llundain, fe gafodd y syniad am ddwy ddynes yn cyfarfod eto mewn cartref nyrsio ar ôl i’w carwriaeth ddod i ben yn y 1950au. Sgrifennodd sgript Time & Again mewn byr o dro wedyn.

“Beth sy’n anhygoel am y ffilm yw ei bod wir wedi gwneud i bobl feddwl,” meddai Rachel Dax. “I feddwl a ydyn ni am fod yn druenus yn niwedd ein bywydau, a all menywod hŷn, a phobl hŷn yn gyffredinol, fod yn rhywiol – wel, wrth gwrs y gallan ni.”

Cwestiwn arall y mae’r ffilm yn ei godi yw beth sy’n digwydd i rywun o’r gymuned hoyw pan fyddan nhw’n dod i sefyllfa nad ydyn nhw am fod ynddi, sy’n fwy caeedig.

“Mae yna straeon am bobol yn mynd yn ôl i mewn i’r closet ar ôl iddyn nhw fynd i gartrefi gofal, oherwydd ei fod yn haws,” meddai Rachel Dax. “Cafodd y genhedlaeth hynaf, y rheiny sydd dros eu 80 oed, eu magu pan oedd cyfun-rywioldeb yn anghyfreithlon i ddynion, a’r byd yn llawn rhagfarn. Symudodd nifer ohonyn nhw i ddinasoedd er mwyn gallu dod mas, neu fe briodon nhw â rhywun nad oeddent yn ei garu.

“Mae’r ffilm wedi dal dychymyg llawer un am y rheswm hwnnw. A dw i’n meddwl mai dyna pam ei bod wedi dal dychymyg Siân Phillips – oherwydd roedd yn stori nad oedd wedi’i hadrodd, ac roedd hi wrth ei bodd â’r cymeriad.

“Mae llawer o actoresau hen iawn yn cael rhannau lle mae ganddyn nhw Alzheimers neu maen nhw’n marw o ganser neu rywbeth. Roedd y person yma’n fyw go-iawn, yn bersonoliaeth gref, yn cadw’n brysur, ac roedd [Siân Phillips] wedi ei chyffroi â’r rhan.”

Er nad ydyn nhw’n enwi lleoliad yn y ffilm, roedd y cyfarwyddwr wedi dychmygu ei bod hi’n digwydd yn rhywle tebyg i’r Bont-faen ym Morgannwg. “I fi, mae hi wedi ei gwreiddio yng Nghymru.”

Wnaeth hi erioed feddwl y gallai ofyn i rywun mor enwog â Siân Phillips chwarae’r rhan, nes i asiant a chastiwr a oedd wedi darllen a mwynhau’r sgript awgrymu’r enw.

“‘Y Siân Phillips?’ gofynnais i wrthi,” meddai Rachel Dax. “A dyma fi’n edrych ar ei llun, a meddwl yn syth: ‘Dyna Eleanor. Dyna fy mhrif actores.’ Roeddwn i’n gwybod ar unwaith na allai fod yn neb ond hi.”

Brigit Forsyth, Rachel Dax a Siân Phillips

Ffilm gyda seren Hi-de-Hi  

Ruth Madoc yn darllen llyfr monologau Rachel Dax – fe fydd
yr actores enwog o Lansamlet yn
actio yn ei ffilm fer nesaf

Sgrifennodd Rachel Dax gyfres o fonologau am fenywod hŷn yn 2020, yn ystod y pandemig, sef In Isolation: A Short Book Of Long Monologues. Mae’r monologau yn trafod bywydau pedair o ferched o wahanol gefndiroedd sydd yn eu

80au, a phob un yn cyffwrdd ar brofiadau LHDT, a pherthynas menywod gyda dynion a’r gymdeithas ehangach.

Mae hi wedi troi un stori yn bodlediad, Dressed for Men – a gafodd ei leisio gan yr actores adnabyddus Gymraeg Sara Harris Davies. “Roedd hi’n berffaith ar gyfer rhan y podlediad,” meddai Rachel Dax. “Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio gydag actores Gymreig wych arall.”

Ac mae hi ar fin dechrau gweithio gyda seren enwog arall.

Fe fydd hi’n ffilmio un o’r monologau eraill o’r llyfr In Isolation gyda neb llai na Ruth Madoc – seren y gyfres gomedi Hi-de-Hi ar deledu erstalwm. Fe fyddan nhw’n recordio’r podlediad cyntaf yfory (1 Gorffennaf) cyn mynd ati i ffilmio ddiwedd y mis, yng nghartref y naill neu’r llall – dyw’r manylion ddim eto wedi eu sicrhau.

“O ran fy ngyrfa,” meddai Rachel Dax, “mae e’n wych bod actores Gymreig adnabyddus iawn arall eisiau gweithio gyda mi.”

Sara Harris Davies yn recordio Dressed For Men

Cefndir

Athroniaeth a Diwinyddiaeth oedd pwnc gradd Rachel Dax ym Mhrifysgol Llundain, ac aeth yn ei blaen i hyfforddi fel athro Addysg Grefyddol.

Symudodd i Gaerdydd yn 1999 a dechrau mynd i gyrsiau perfformio a drama, ac yn 2008 enillodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Drama (Theatr a’r Cyfryngau) ym Mhrifysgol Morgannwg. Aeth ymlaen wedyn i wneud gradd MA mewn Ffilm yn yr Ysgol Ffilm Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd, a throi ei golygon at fyd ffilm. Sefydlodd ei chwmni DaxiTales Cyf. yn 2011, ac mae wedi gwneud sawl ffilm dan ymbarél y cwmni. Mae ganddi ddwy swydd arall – dysgu Sgrifennu Creadigol a Sgriptio yn Adran Addysg Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, a darlithio’n achlysurol ar Ffilm i israddedigion Prifysgol De Cymru.

Mae hi wrth ei bodd â Chymru, yn enwedig y gogledd – fe fyddai hi a’i theulu yn dod ar wyliau o ganol dinas Birmingham i’r Bermo a’r gogledd yn ei hieuenctid. “Fel plentyn, roedd Cymru i fi fel paradwys hudol,” meddai. “Dyna’r unig bryd y byddwn i’n gweld y môr, mynyddoedd, a rhaeadrau. Er fy mod i’n byw yng Nghaerdydd ers 23 mlynedd, mae Cymru yn dal i deimlo fel paradwys hudol i fi. Ro’n i wastad yn meddwl mai dyma’r lle gorau ar y ddaear.”

Bydd gŵyl LezDiff – Gŵyl Ffilmiau a Chelfyddydol Lesbiaid Ryngwladol Caerdydd yn digwydd Sadwrn a Sul, 9 – 10 Gorffennaf yn Chapter, Caerdydd

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os am ddarllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)