Llythyr da iawn gan Rob Evans o Abertawe (Golwg 16/6/22) ynglŷn â dysgwyr!

Llawer o flynyddoedd yn ôl, a minnau’n byw mewn ardal arall o Gymru, bues i’n ymwneud am gyfnod â charfan oedd yn ceisio creu cyfleoedd i ddysgwyr gael cwrdd â Chymry rhugl er mwyn ymarfer yr iaith y tu allan i’r dosbarth.