Wrth i arweinwyr gwledydd y Gorllewin rybuddio y bydd rhyfel Wcráin yn un hir, mae Carwyn Jones yn awgrymu y gallai fod yn un eang hefyd wrth i Vladimir Putin sôn am adfer tiroedd Rwsia Pedr Fawr …

“Y cwestiwn sydd heb ei ateb yw ble bydd e’n bennu? Byddai unrhyw berson call yn gwybod bod Rwsia’n sicr o golli unrhyw wrthdaro gyda lluoedd NATO… Rwy’n amau mai cynnig nesa’ Putin ar ôl goresgyn Wcráin fydd rhoi prawf ar NATO, efallai trwy fygwth Lithwania. Bydd yn dibynnu ar y ffaith fod gwledydd NATO wedi blino ar ryfela ac felly y byddan nhw’n gyndyn i ymyrryd i amddiffyn un o’u haelodau. Byddai methiant i wneud hynny, wrth gwrs, yn golygu diwedd ar NATO. Mae’n fater o un fewn, pawb fewn, neu wneud dim.” (thenational.wales)

Yn ôl John Dixon, rhyfel hir ydi canlyniad naturiol polisïau gwledydd y Gorllewin, gan gynnwys cynnig y Deyrnas Unedig i helpu gyda hyfforddi milwyr…

“Fydd hyfforddi 10,000 bob 120 diwrnod – y targed y mae [Boris] Johnson fel petai’n ei osod – ddim hyd yn oed yn gwneud iawn am y rhai sy’n cael eu lladd, heb sôn am gael eu clwyfo hefyd. Mae’n agwedd at ryfel sy’n cadw’r ymladd i fynd nes, yn y diwedd, fydd dim rhagor o Wcrainiaid i’w hyfforddi. Tybed a yw Johnson yn gweld – neu yn gallu gweld – yr hyfforddeion hyn yn bobl yn hytrach na niferoedd?… wrth gwrs mai Putin sydd ‘ar fai’… ond dydi hynny ddim yn golygu ei bod yn iawn sefyll ar yr ymylon yn annog yr amddiffynwyr i ymladd hyd at yr Wcrainiad olaf tra’n gwneud y dewis hawdd o gyflenwi rhai mathau o arfau, hyfforddi milwyr newydd a gweithredu sancsiynau economaidd yn araf iawn… fydd y colledion sy’n cael eu hachosi gan amddiffynwyr Wcráin na’r sancsiynau bratiog ddim yn ddigon i orfodi Rwsia at y bwrdd, sef yr unig ffordd o atal y lladd.” (borthlas.blogspot.com)

Ar nation.cymru, doedd Ben Wildsmith ddim yn gweld canlyniad clir i frwydr arall, fwy heddychlon – am hen seddi Llafur gogledd Lloegr. Honno, meddai, sy’n rheoli’r maes gwleidyddol…

“Un nod sydd gan holl gyfranogwyr y charade yma, sef ennill pleidleisiau yn yr hen Wal Goch… er mwyn hynny mae’r ddwy ochr yn ymlafnio i beidio â brifo teimladau y maen nhw’n dychmygu sy’n bod mewn ardal na wyddon nhw fawr ddim amdani. Mae’n ymddangos eu bod yn cytuno ar un peth: fod eu pleidleiswyr targed ychydig yn hiliol. Nid yn ddigon hiliol i gydnabod hynny ond yn falch o glywed ei bod yn hollol iawn mwynhau gweld tramorwyr yn cael eu hanfon o’r wlad a’i bod, mewn gwirionedd, yn hiliol i beidio â chefnogi hynny.”

A sôn am gam-ddelweddu, mae Dic Mortimer, ar ôl dwy gêm bêl-droed yn erbyn yr Iseldirwyr, yn gweld tebygrwydd yn nhriniaeth y Saeson ohonyn nhw a ni…

“… er bod ein hanes yn wahanol iawn i hanes yr Iseldiroedd… mae gyda ni lawer yn gyffredin o ran ein cyd-enllibio gan y Sais. Llurguniad o ‘Deutsch’, sy’n golygu pobl Almaenig, yw’r gair ‘Dutch’ nad yw’n cael ei ddefnyddio gan Iseldirwyr i ddisgrifio eu hiaith na nhw eu hunain. Yn hynny o beth, mae’n debyg i’r gair ‘Welsh’, label arall anwybodus ac anghywir a osodwyd gan y Saeson …” (dicmortimer.com)