Drwy ei gwaith, mae Elen Gwen Williams yn annog ffermwyr sy’n mynd drwy gyfnodau anodd i estyn allan at wasanaethau iechyd meddwl.

Yn ferch fferm o Henllan ger Dinbych, mae Elen yn gyfarwydd â’r heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddol a chymunedau gwledig.

Yn rhinwedd ei swydd yn Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu Sefydliad DPJ, mae hi’n hyrwyddo gwaith yr elusen a’r cymorth y gallan nhw ei gynnig, a hynny mewn sioeau amaethyddol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.