I ni, nid chwiban i gyhoeddi diwedd y gêm oedd hi ond chwiban i gyhoeddi dechrau’r dathliadau.

Mi wnes i edrych rownd ac roedd yna ddigon o ddynion mawr blewog canol oed mewn dagrau. Fel fi, doedden nhw ddim wedi disgwyl gweld hyn yn ystod eu bywydau. Fel fi, roedden nhw wedi crïo o’r blaen, yn 1977 a 1985.

Ac wedyn ar y cae daeth y foment fwyaf arwyddocaol yn hanes chwaraeon Cymru.