Wrth i’r rhan fwya’ o wledydd y Gorllewin groesawu penderfyniad y Ffindir a Sweden i geisio am aelodaeth NATO, roedd Dafydd Glyn Jones, o leia’, yn anghytuno…
“Colled fawr i’r byd, ac i Ewrop yn arbennig, yw bod y gwledydd llwyddiannus hyn yn mynd dan fawd America. Ac edrych arni yn y tymor byr, gellir maddau i wledydd y Baltig (Latfia, Lithwania ac Estonia), ac i Wlad Pwyl hefyd, am eu brys i gynghreirio ag unrhyw un heblaw Rwsia; ond a chymryd golwg ehangach, anodd meddwl na fuasai band o wledydd niwtral ar draws Dwyrain Ewrop yn fodd i rwystro’r trychineb a’r hunllef sydd yn awr. Diau fod y breuddwyd am ‘Rwsia Fwy’, ac adfer hen ymerodraeth Stalin a’r Tsar, ym meddwl y dihiryn Bondaidd gwallgo Pwtyn drwy’r adeg: ond beth sydd wedi ei gymell i weithredu eleni, wedi rhoi’r esgus iddo? Heb unrhyw amheuaeth, anogaeth NATO ar i’r Wcráin ymuno â hi.” (glynadda.wordpress.com)
Fel arall, trafferthion y Blaid Geidwadol sy’n cael fwya’ o sylw, gan gynnwys y blaid yng Nghymru. I fwy nag un blogiwr, mae’n ymddangos mai’r cyfan wnaeth ei chynhadledd Gymreig oedd tynnu sylw at ei diffyg cymeriad …
“…maen nhw i raddau helaeth wedi gadael i’r chwith, a’r rhai sy’n dadlau tros fwy o hunan-lywodraeth i Gymru, berchnogi datganoli a’i lwyddiannau ac, o ganlyniad, Cymreictod fel hunaniaeth wleidyddol ynddi’i hun. Bydd angen mwy na chefnogaeth i ŵyl banc [Dydd Gŵyl Dewi] a chydnabyddiaeth anfoddog fod Cymru wedi cael cam tros HS2 er mwyn newid y farn honno. Fel y mae, fydd diferion o ddŵr glas rhyngddyn nhw a San Steffan ddim yn ddigon i ddatrys problemau hunaniaeth y Ceidwadwyr Cymreig a’r problemau etholiadol sy’n deillio o hynny.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)
“At bwy mae’r blaid yn apelio a thros bwy y mae’n sefyll? A all [Andrew RT] Davies dynnu ei aelodau Senedd ei hun ac amheuwyr bygythiol datganoli gydag e? Ble bydd y blaid yn ei gosod ei hun heblaw am fod yn grŵp pwyso sy’n difrïo cael Senedd fwy? Pa mor bell y mae ei gydweithwyr Cymreig o ddifri yn gallu, neu eisiau, cofleidio arwahanrwydd yn hytrach na bod yn gysgod i Dorïaid Lloegr?” (Theo Davies-Lewis ar thenational.wales)
Ledled gwledydd Prydain, yn ôl John Dixon ar borthlas.blogspot.com, y broblem yw methiant y Ceidwadwyr i ddelio â’r argyfwng costau byw …
“…all y llywodraeth hyd yn oed… ddim atal y math o godiadau prisiau yr ydym ni’n eu gweld; ond yr hyn y gall hi ei wneud (ond ei bod yn gwrthod) yw lliniaru’r effaith ar y mwya’ bregus… un wers glir o’r pandemig: dyw’r llywodraeth, yn ymarferol, ddim yn cael ei rhwystro gan brinder arian, pwynt sy’n cael ei brofi eto gyda’r costau anferth o gefnogi’r Wcráin… Yn yr un modd, gallen nhw symud adnoddau digonol i helpu pobol trwy’r argyfwng presennol, ond maen nhw wedi cymryd penderfyniad bwriadol i beidio… Mae’n debyg eu bod wedi tybio (a fyddwn i ddim yn anghytuno gyda’r dybiaeth) nad yw’r bobol sy’n dwyn y baich mwya’ yn pleidleisio i’r Torïaid, a fyddan nhw byth.”
Er hynny, mae Frank Little yn anobeithio wrth weld y trafferthion yn cael eu boddi gan fytholeg Boris Johnson…
“Johnson a achubodd y genedl rhag Covid drwy hyrwyddo brechu. Mae Johnson yn arwain y byd rhydd wrth wrthsefyll gormes Rwsia. Dim gwahaniaeth fod y feirws wedi cael cyfle i wreiddio yn y Deyrnas Unedig oherwydd dau fis o ddiffyg gweithredu gan ei lywodraeth na fod arian Rwisiaidd yn caethiwo ei blaid, bydd y chwedl yn drech na hynny.” (ffrancsais.blogspot.com)