Cynhwysion o safon ac angerdd ydy cyfrinach teulu o ardal Caerffili sydd newydd ennill gwobr fawr am greu’r hufen iâ gorau yng ngwledydd Prydain.

Eleni cafodd cwmni Minolis o bentref Machen eu coroni’n Bencampwyr Creu Hufen Iâ Prydain.

Dyma’r pedwerydd tro i deulu Geraint Richards ennill y teitl, ond i’w ddiweddar dad, Lewis Richards, y mae’r clod, meddai’r mab.