Mae gan Abu-Bakr Madden Al-Shabazz sawl pluen yn ei het, ag yntau yn hanesydd, seicolegydd, cymdeithasegydd, anthropolegydd diwylliannol ac athro.

Edrych ar hanes o safbwynt du ac Affricanaidd, o’r cyn-hanesyddol i’r cyfoes, ydy prif ddiddordeb Abu-Bakr o Gaerdydd, sydd wedi gwneud cryn waith i Senedd Cymru.

Bu yn aelod o’r gweithgor oedd yn edrych ar sut i gynnwys cymunedau a chyfraniadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.